Digwyddiadau

Digwyddiad: Darlunio Deinos gyda'n Gilydd: Gweithdy Palaeogelf

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
17 Awst 2021, 10am - 12pm a 1pm - 3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd 10am sesiwn 11-15 oed; 1pm sesiwn 16-25 oed
Archebu lle Eventbrite
Darlunio Deinos gyda'n Gilydd: Gweithdy Palaeogelf

Darlunio Deinos gyda'n Gilydd: Gweithdy Palaeogelf

Mae llawer o greaduriaid rhyfedd a rhyfeddol wedi byw ar y ddaear, ac mae llawer ohonyn nhw wedi goroesi fel ffosilau.

Ond pan mai'r unig beth i'w astudio yw cerrig, sut mae datrys beth mae'r creaduriaid yn edrych fel, a gwell fyth, eu darlunio?

Dyma pam mae angen palaeoartistiaid! Gwaith palaeoartistiaid yw defnyddio celf i ddod â rhywogaethau coll yn fyw, ac yn ein sesiwn Darlunio Deinos gyda'n Gilydd, bydd cyfle i chi wneud yr un peth!

Tocynnau

Bydd y darlunydd bywyd gwyllt Alex Vieira yn eich tywys trwy'r camau – o ddefnyddio tystiolaeth ffosilau, ymchwil gwyddonol, gwybodaeth am greaduriaid byw ac ychydig o ddyfalu – er mwyn ail-greu creaduriaid coll o'r gorffennol.

Yn y sesiwn hon byddwn ni'n edrych ar ddeinosoriaid nad oedden nhw'n adar, grŵp sy'n enwog am fod yn amrywiol ac yn anhygoel.

Byddan nhw'n cynnwys deinosoriaid Cymreig a rhywogaethau eraill sydd i'w gweld yn yr Amgueddfa.

I ddechrau, byddwch yn cael mynd i Ganolfan Ddarganfod Clore am gyflwyniad cyflym am hanfodion palaeogelf yna bydd sesiwn darlunio gyda'n gilydd.

Ar ôl hynny, byddwn yn mynd am dro drwy orielau deinosor a phalaeontoleg yr amgueddfa i fraslunio.

Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau Haf o Hwyl...

Digwyddiadau