Digwyddiadau

Digwyddiad: Barddoniaeth Gudd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
15 a 25 Awst 2021, 10am - 12pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd 16+
Archebu lle Eventbrite
Barddoniaeth Gudd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Barddoniaeth Gudd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ymunwch â Millie, un o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, am sesiwn hwyl o greu barddoniaeth gudd yn orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Barddoniaeth gudd yw creu stori newydd sbon o destun sydd eisoes yn bodoli.

Byddwn yn dechrau gyda thudalen o destun, yn dewis y geiriau yr hoffen ni gadw ac yn cuddio'r gweddill naill ai drwy eu croesi allan, eu lliwio neu ddarlunio drostynt.

Tocynnau

Yn y sesiwn dwy awr hon byddwn ni'n mynd i arddangosfa Prabhakar Pachute yn Artes Mundi 9 i gael ein hysbrydoli gan ei dirluniau a ffigurau dychmygol.

Cyn i ni ddechrau byddwn yn dysgu beth yw cerdd gudd ac yn rhoi cynnig ar greu un gyda'n gilydd fel bod pawb yn teimlo'n barod i fynd i'r oriel.

Ar ôl ychydig o amser i'n hunain er mwyn creu ein cerddi, byddwn ni'n mynd yn ôl i Ganolfan Ddarganfod Clore i rannu ein cerddi mewn awyrgylch gyfeillgar. Pa straeon newydd fyddwch chi'n eu creu?

  • Cwrdd yng Nghanolfan Ddarganfod Clore ar y diwrnod.
  • Does dim angen unrhyw ddeunyddiau, bydd pawb yn cael pecyn a byddwch chi'n cael mynd ag e gartref gyda chi ar ôl y sesiwn. 

Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau Haf o Hwyl...

Digwyddiadau