Digwyddiad: Hwyrnos: ANIFAIL

Mae nosweithiau Hwyrnos yn ôl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o’r diwedd – dewch i ymuno â’r parti! Mae ein digwyddiadau hwyrnos ar gyfer oedolion yn ôl yn 2022, a’r tro hwn byddwn ni’n troi’n ANIFAIL yn y nos! Felly byddwch yn barod i wisgo i fyny, ac ymgolli mewn noson greadigol yn yr Amgueddfa.
Noson llawn cerddoriaeth, gemau, bwyd a diod i ddathlu agoriad arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn, sy’n darlunio ein planed fregus.Byddwch ymysg y cyntaf i weld yr arddangosfa sy’n cynnwys 100 o luniau wedi eu hôl-oleuo fydd yn tanio brwdfrydedd a chwilfrydedd drwy arddangos amrywiaeth a bregusrwydd bywyd gwyllt ein planed.
Drysau: 8pm
Oed: Oedolion yn unig
Ymunwch â ni am gwis anifeilaidd wedi’i greu gan y brand cwlt o Gaerdydd BINGO LINGO. Archwiliwch y casgliadau tu ôl i’r llenni, dysgu am ffotograffiaeth bywyd gwyllt, cwrdd â’n curaduron a llawer mwy.
WEDI CADARNHAU: Bydd y bar enwog Lab 22 yn cymysgu coctels sydd wedi eu creu’n arbennig ar gyfer y digwyddiad
WEDI CADARNHAU: Bydd Motel Nights yn cadw ni i fynd drwy’r nos gyda bwyd a diod o’u bar alcohol a pizza
Tocyn yn cynnwys:
-
Mynediad am ddim i arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn (pris arferol £10 oedolyn)
-
Cwis Tafarn Bingo Lingo – rowndiau chwerthinllyd a gwobrau i’w hennill!
-
Sgyrsiau byr gan guraduron yn Oriel Hanes Natur
-
Hwb Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt (awgrymiadau a syniadau i gymryd lluniau bywyd gwyllt ar eich camerau a’ch ffônau symudol!)
-
Gemau
-
Dangosiad ffilm byr ‘Beyond Silence’ , wedi’u gomysiynu gan The Oak Project
-
Set DJ byw gan Ian Davies o Bingo Lingo