Digwyddiad: Diwrnod Cenedlaethol y Gweirgloddiau
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd



Ymunwch â ni am ddiwrnod o weithgareddau llawn natur yn Gardd ein Amgueddfa mewn partneriaeth â menter Gweirgloddiau Gwych Cymru Plantlife.
Sesiynau galw heibio:
- Creu bomiau hadau gwyllt
- Dysgu sut i arolygu’r ddôl (dewch â ffôn clyfar neu ddyfais debyg)
- Dysgu sut i greu dôl eich hun
- Dangos eich dawn greadigol a lliwio’r cymeriadau bach sy’n chwarae a mwynhau dan flodau anferth y ddôl
- Prynu eich planhigion dôl eich hun yn y Sêl Planhigion
- Dôl: cartref i bryfed. Dod i nabod byd dirgel pryfed gyda Buglife Cymru
- Uwchgylchu blodau tragwyddol hardd gyda Green Squirrel
Bydd y gweithgareddau hyn yn digwydd yn yr awyr agored oni bai bod y tywydd yn wael iawn.