Digwyddiadau

Digwyddiad: Mwy o Amser yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
First Thursday of each month - click for all dates
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Menyw ifanc yn edrych ar y casgliad o ddeinosoriaid

Ydych chi'n chwilio am rywbeth i wneud ar nos Iau yng Nghaerdydd? Mae galw draw i'r Amgueddfa yn ddewis rhad ac am ddim perffaith! 

Dewch draw i fwynhau a darganfod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 8pm ar ddydd Iau cyntaf y mis.

Pa arddangosfeydd alla i eu gweld?

Diolch i'r oriau agor estynedig, bydd mwy o amser i chi ddarganfod arddangosfeydd gwych Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Ymhlith yr arddangosfeydd presennol mae:

Beth arall alla i wneud yn yr Amgueddfa?

Dau berson yn mwynhau coffi a chacen yng nghaffi'r amgueddfa
  • Cyfarfod am goffi - bydd y Caffi ar agor drwy'r nos yn gwerthu danteithion

  • Cymdeithasu - dewch i gyfarfod ffrindiau a theulu, neu fwynhau dêt cyntaf diwylliedig 

  • Mwynhau celf - oeddech chi'n gwybod bod gweithiau gwych gan artistiaid bydenwog yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan gynnwys Monet, Renoir, Botticelli a mwy? 

  • Mae’r Amgueddfa’ hefyd yn gartref i waith artistiaid o Gymru, gan gynnwys Gwen John, Cedric Morris a Bedwyr Williams!

  • Ymlacio a mwynhau taith feddylgar drwy'r Amgueddfa. Cyfle i gael eich gwynt wrth grwydro'r orielau.

  • Dod wyneb yn wyneb â'ch hoff ddeinosor. Mae ein deinosoriaid yn y cnawd yn werth eu gweld! Yma hefyd mae ffosilau a replica o'r Dracoraptor hanigani.  Mae'r dracoraptor yn gefnder i'r T-rex ffyrnig, a cafodd y ffosil ei ganfod ar draeth ger Penarth.

Mwynhau diwylliant Caerdydd

Eich amgueddfa chi yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a lle i gyfarfod a mwynhau. Galwch draw ar ddydd Iau cyntaf pob mis a gwneud yn fawr o'r arlwy ar eich stepen drws!

Croeso cynnes

Nain a thaid, eu merch sy'n oedolyn a phlentyn bach yn mwynhau oriel Esblygiad Cymru, gyda deinosor y tu ôl iddynt

Rydyn ni'n croesawu pawb i'r Amgueddfa, yn rhad ac am ddim. 

Gall teuluoedd fwynhau'r arddangosfeydd deinosoriaid a hanes natur. 

Rydyn ni'n lleoliad hygyrch – rydyn ni'n ddiweddar wedi gosod ramp newydd wrth y brif fynedfa, ac mae lifftiau i bob llawr. Os oes gennych chi anghenion ychwanegol, bydd ein cynorthwy-wyr amgueddfa yn barod i estyn llaw.

Pethau i'w gwneud yng Nghaerdydd yn y glaw

Mae'n bwrw glaw yn aml yng Nghaerdydd... yn aml iawn. 

Yn lle ceisio canfod lle mewn caffi bach, maw digonedd o le yn y Caffi yn yr Amgueddfa. 

Os ydych chi wedi diflasu ar y tywydd oer a gwlyb, y Caffi yw'r lle perffaith i gynhesu'r galon! Bydd y Caffi yn gwerthu diodydd poeth ac oer a danteithion blasus.

Digwyddiadau