Digwyddiad: Mwy o Amser yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ydych chi'n chwilio am rywbeth i wneud ar nos Iau yng Nghaerdydd? Mae galw draw i'r Amgueddfa yn ddewis rhad ac am ddim perffaith!
Dewch draw i fwynhau a darganfod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 9pm ar ddydd Iau cyntaf y mis.
Pryd alla i ymweld â'r Amgueddfa liw nos?
- 4 Mai
- 1 Mehefin
Pa arddangosfeydd alla i eu gweld?
Diolch i'r oriau agor estynedig, bydd mwy o amser i chi ddarganfod arddangosfeydd gwych Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Ymhlith yr arddangosfeydd presennol mae:
Beth arall alla i wneud yn yr Amgueddfa?

- Cyfarfod am goffi - bydd y Caffi ar agor drwy'r nos yn gwerthu danteithion
- Cymdeithasu - dewch i gyfarfod ffrindiau a theulu, neu fwynhau dêt cyntaf diwylliedig
- Mwynhau celf - oeddech chi'n gwybod bod gweithiau gwych gan artistiaid bydenwog yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan gynnwys Monet, Renoir, Botticelli, van Gogh a mwy?
- Mae’r Amgueddfa’ hefyd yn gartref i waith artistiaid o Gymru, gan gynnwys Gwen John, Cedric Morris a Bedwyr Williams!
- Ymlacio a mwynhau taith feddylgar drwy'r Amgueddfa. Cyfle i gael eich gwynt wrth grwydro'r orielau.
- Dod wyneb yn wyneb â'ch hoff ddeinosor. Mae ein deinosoriaid yn y cnawd yn werth eu gweld! Yma hefyd mae ffosilau a replica o'r Dracoraptor hanigani. Mae'r dracoraptor yn gefnder i'r T-rex ffyrnig, a cafodd y ffosil ei ganfod ar draeth ger Penarth.
Mwynhau diwylliant Caerdydd
Eich amgueddfa chi yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a lle i gyfarfod a mwynhau. Galwch draw ar ddydd Iau cyntaf pob mis a gwneud yn fawr o'r arlwy ar eich stepen drws!
Croeso cynnes

Rydyn ni'n croesawu pawb i'r Amgueddfa, yn rhad ac am ddim.
Gall teuluoedd fwynhau'r arddangosfeydd deinosoriaid a hanes natur.
Rydyn ni'n lleoliad hygyrch – rydyn ni'n ddiweddar wedi gosod ramp newydd wrth y brif fynedfa, ac mae lifftiau i bob llawr. Os oes gennych chi anghenion ychwanegol, bydd ein cynorthwy-wyr amgueddfa yn barod i estyn llaw.
Pethau i'w gwneud yng Nghaerdydd yn y glaw
Mae'n bwrw glaw yn aml yng Nghaerdydd... yn aml iawn.
Yn lle ceisio canfod lle mewn caffi bach, maw digonedd o le yn y Caffi yn yr Amgueddfa.
Os ydych chi wedi diflasu ar y tywydd oer a gwlyb, y Caffi yw'r lle perffaith i gynhesu'r galon! Bydd y Caffi yn gwerthu diodydd poeth ac oer a danteithion blasus.