Digwyddiadau

Arddangosfa: Ailfframio Picton

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
1 Awst 2022 – 12 Ionawr 2025, Bydd yr arddangosfa ar agor nes 9pm ar 6 Ebrill, 4 Mai ac 1 Mehefin
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Merch fach mewn gosodiad wedi'i wneud o bapur sydd wedi'i throelli

'Spirited' gan Laku Neg

Llun o ddynes mewn ystafell dywyll, yn cynnwys lluniau o bobl Ddu, a phob un gyda thatŵ

'The Wound is a Portal' gan Gesiye

Dau berson yn edrych ar bortread Thomas Picton

Arddangosfa Ailfframio Picton

Oherwydd problemau cynnal a chadw annisgwyl, mae'r arddangosfa yma ar gau. Ymddiheuriadau am hyn, a gobeithiwn ei ddatrys cyn gynted â phosib.

Pwy oedd yr Is-Gadfridog Syr Thomas Picton? Arwr rhyfel. Gormeswr creulon. Symptom o'r Ymerodraeth Brydeinig.

Gall yr holl bethau hyn fod yn gywir ar unwaith a dyma sy’n cael ei archwilio mewn arddangosfa a gynlluniwyd dros flynyddoedd.

 

Mae'r arddangosfa wedi ei rannu yn 3 rhan:

  1. Mae'r ystafell gyntaf yn cynnwys 'Spirited', comisiwn gan Laku Neg. Mae eu gosodiad yn archwilio ail-gyflwyniad o Luisa, Thisbe a Present, ddioddefwyr o gyfundrefn greulon Picton yn Trinidad.
  2. Mae'r ail ystafell yn ystafell o iacháu. Yn cynnwys comisiwn newydd gan Gesiye, artist aml-ddisgyblaeth o Trinidad a Tobago. Fel rhan o’i gwaith comisiwn o'r enw 'The Wound is a Portal' – cyfres o luniau a ffilm - gwahoddodd Gesiye Trinidadiaid i gymryd rhan mewn cynnig iachâd sy'n cynnwys cyfres o datŵs a sgyrsiau o gwmpas eu cysylltiad â'r tir.
  3. Yn y drydedd ystafell bydd ymwelwyr dod wyneb yn wyneb ag etifeddiaeth Picton mewn arddangosfa llawn eitemau sy'n adrodd ei stori.

 

Mae Ailfframio Picton yn benllanw ar dros 2 flynedd o allgymorth cymunedol rhwng Amgueddfa Cymru a Phanel Cynghori Is-Sahara (SSAP).

Mae prosiectau dan arweiniad ieuenctid ar draws yr amgueddfa yn rhan o fenter Dwylo ar Dreftadaeth, a wnaed yn bosibl gan Grant Kick the Dust o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Rydym wedi gweithio gyda'r bobl ifanc y tu ôl i brosiect Ail-fframio Picton i ddatblygu geirfa o ymadroddion sy'n gysylltiedig â'r arddangosfa

Geirfa o ymadroddion

 

Digwyddiadau eraill o ddiddordeb

 

 

 

 

 

Logo nawdd yn rhoi credyd i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gefnogi'r prosiect hwn
Digwyddiadau