Digwyddiadau

Digwyddiad: Haf o Hwyl - Gweithgareddau Kids in Museums

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
2–27 Awst 2022
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Dyma logo gyda'r geiriau Haf o Hwyl, Summer of fun wedi eu hysgrifennu mewn glas ar gefndir hufen, uwchben y tecst mae amlinelliad o dri calon, y cyntaf yn binc gyda'r ail yn goch ar trydydd yn felyn
Dyma logo Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru, mae'r testun yn goch ar gefndir gwyn. Mae yma hefyd amlinelliad adeilad treftadol ar yr ochr chwith

Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru

Dyma Logo gyda'r geiriau yn nodi bod y prosiect wedi ei arianu gan Lywodraeth Cymru gyda testun du ar gefndir gwyn

Yr haf hwn yw'r Haf o Hwyl yn amgueddfeydd Cymru, diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru! Mae'r fenter yn edrych i gefnogi plant a phobl ifanc drwy ddarparu amrywiaeth o lefydd diogel ar gyfer chwarae a gweithgareddau corfforol yn rhad ac am ddim er mwyn datblygu sgiliau cymdeithasol.

O ddawnsio clocsiau a gemau traddodiadol i weithdai creadigol a pherfformiadau anhygoel, mae yma lu o weithgareddau i bobl ifanc a theuluoedd mwynhau.


Mae gan Kids in Museums amrywiaeth o ddigwyddiadau ar eu gwefan. Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y linc isod -
https://kidsinmuseums.org.uk/what-we-do/find-family-days-out-near-you/whats-on-for-families-in-wales/

 

Digwyddiadau