Digwyddiadau

Cwrs: Dim lle ar ôl - Darlunio Boteganol Nadolig

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
2 Rhagfyr 2023, 10:30 - 4yh
Pris £75 | £60 Gostyngiad
Addasrwydd 16+*

Dim lle ar ôl

 

Mae'r cwrs undydd hwn yn gyfle i chi roi cynnig ar ddarlunio botanegol Nadoligaidd. Dan arweiniad yr artist Debbie Devauden, byddwch yn dysgu'r technegau sydd eu hangen i ddylunio cerdyn Nadolig.

Cewch eich ysbrydoli gan ddetholiad arbennig o gasgliad yr Amgueddfa o dros 7,000 o brintiau a darluniau botanegol, nifer ohonynt yn dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif. Mae pob math o straeon diddorol tu ôl i'r delweddau hyn. Bydd Dr Heather Pardoe, un o guraduron yr Amgueddfa, wrth law i ddweud mwy.

Mae hwn yn gwrs addas i ddechreuwyr a darlunwyr ychydig yn fwy profiadol, ac mae'r pris yn cynnwys yr holl ddeunyddiau angenrheidiol.

 

 

Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs  *(heblaw am Bopty Derwen) 

Rhaid prynu tocyn ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn.

Iaith: Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwyluswyr - sef Saesneg

Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a rhwng 16-18 oed. *rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan.

Hygyrchedd: Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod unrhyw anghenion hygyrchedd.

Telerau ac amodau: Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Digwyddiadau