Digwyddiadau

Digwyddiad: Gŵyl Amgueddfeydd Cymru Cystadleuaeth Ffotograffiaeth

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
22 Hydref–6 Tachwedd 2022
Pris Am Ddim
Addasrwydd 13-19 oed

Rhwng 13 a 19 oed? Awydd ennill CLUSTFFONAU BEATS STUDIO 3, gor-glust, canslo sŵn, Bluetooth? 

Ymwelwch â'n hamgueddfa a byddwch greadigol: golygwch y byd trwy lens camera. Tynnwch rai lluniau ar y thema ‘TRYSOR’ a ‘PENDRONWCH Y POS’, ychwanegwch ffilter neu beidio, neu golygwch nhw a bod mor greadigol ag y mynnwch. Dewiswch y gorau a phostiwch i Instagram.

Dyddiad cau 7 Tachwedd.

*Nodwch nad ydyn ni'n caniatau tripodau na ffyn hunlun yn yr amgueddfa.

 

Gweithgaredd creadigol AM DDIM i bobl ifanc 13-19 oed fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Ariannir yr Ŵyl gan Lywodraeth Cymru.

Digwyddiadau