Arddangosfa: BBC 100 yng Nghymru


Canrif o ddarlledu
Dewch ar daith drwy’r degawdau i ddysgu mwy am hanes y BBC yng Nghymru a sut mae canrif o ddarlledu wedi esblygu. Bydd cyfle hefyd i weld technoleg, rhaglenni a gwisgoedd y gorffennol drwy gyfrwng gwrthrychau, lluniau a fideos o’r archif.
BBC 100 yng Nghymru yw’r unig arddangosfa i nodi canmlwyddiant darlledu’r BBC yng Nghymru ac rydym yn gwahodd ymwelwyr o bob oed i rannu eu straeon eu hunain. Nod y BBC yw hysbysu, addysgu a diddanu – ond beth mae’r BBC yn ei olygu i chi?
Mae’r arddangosfa wedi ei chyd-ddatblygu gyda grŵp o bobl ifanc sydd yn cwestiynu cynrychiolaeth cymunedau ar y BBC a sut all y dyfodol edrych. Rydyn ni eisiau clywed gennych chi hefyd – ymunwch â’r sgwrs. Dywedwch wrthym am eich atgofion a’ch safbwyntiau wrth i chi ymweld â’r arddangosfa.
Archebwch docyn ymlaen llaw
Gallwch nawr archebu eich tocyn am ddim i’r arddangosfa. Mae hefyd yn bosibl i gael tocyn wrth gyrraedd yr Amgueddfa. I arbed amser wrth gyrraedd, archebwch eich tocyn ymlaen llaw yma.
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw? Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd
Mwy o amser yn yr arddangosfa!
Dewch i fwynhau yr arddangosfa nes 9pm ar nos Iau gyntaf bob mis fel rhan o'n cynllun oriau ychwanegol Mwy o Amser.
Digwyddiadau eraill
