Digwyddiadau

Arddangosfa: BBC 100 yng Nghymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
10 Rhagfyr 2022 – 16 Ebrill 2023, Bydd yr arddangosfa ar agor nes 9pm ar 6 Ebrill, 4 Mai ac 1 Mehefin
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Archebwch docyn ymlaen llaw
Logo ar gyfer arddangosfa BBC 100 yng Nghymru, yn dangos teitl yr arddangosfa mewn ffont mawr am hanner y ddelwedd. Mae'r hanner arall yn dangos teledu o'r 1960au.
Merch ifanc gyda gwallt hir melyn yn eistedd wrth ddesg newyddion tra'n gwenu. Yn hanner arall y llun mae'r testun 'Trwy'r lens' ar gefndir llwyd

Canrif o ddarlledu

Dewch ar daith drwy’r degawdau i ddysgu mwy am hanes y BBC yng Nghymru a sut mae canrif o ddarlledu wedi esblygu. Bydd cyfle hefyd i weld technoleg, rhaglenni a gwisgoedd y gorffennol drwy gyfrwng gwrthrychau, lluniau a fideos o’r archif.

BBC 100 yng Nghymru yw’r unig arddangosfa i nodi canmlwyddiant darlledu’r BBC yng Nghymru ac rydym yn gwahodd ymwelwyr o bob oed i rannu eu straeon eu hunain. Nod y BBC yw hysbysu, addysgu a diddanu – ond beth mae’r BBC yn ei olygu i chi?

Mae’r arddangosfa wedi ei chyd-ddatblygu gyda grŵp o bobl ifanc sydd yn cwestiynu cynrychiolaeth cymunedau ar y BBC a sut all y dyfodol edrych. Rydyn ni eisiau clywed gennych chi hefyd – ymunwch â’r sgwrs. Dywedwch wrthym am eich atgofion a’ch safbwyntiau wrth i chi ymweld â’r arddangosfa.

Archebwch docyn ymlaen llaw

Gallwch nawr archebu eich tocyn am ddim i’r arddangosfa. Mae hefyd yn bosibl i gael tocyn wrth gyrraedd yr Amgueddfa. I arbed amser wrth gyrraedd, archebwch eich tocyn ymlaen llaw yma.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw? Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Mwy o amser yn yr arddangosfa!

Dewch i fwynhau yr arddangosfa nes 9pm ar nos Iau gyntaf bob mis fel rhan o'n cynllun oriau ychwanegol Mwy o Amser.

Digwyddiadau eraill

Logo nawdd yn rhoi credyd i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gefnogi'r prosiect hwn
Digwyddiadau