Arddangosfa: Môrwelion
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

The Sea Horizon, Rhif 18, 1976-77
© Garry Fabian Miller
Golygfeydd o Gymru - o lan i lan
Mae Môrwelion yn arddangosfa newydd o ffotograffau gan yr artist Garry Fabian Miller - un o ffigurau mwyaf blaengar ffotograffiaeth gain.
Mae'r arddangosfa hon yn dangos Cymru o bersbectif anarferol, anghyfarwydd, sy'n eich annog i ystyried hunaniaeth, ffiniau, ac ymdeimlad o le.
Mae Môrwelion yn atgof o sut y gall tirlun newid ac addasu dros amser, yn enwedig o ystyried amrediad llanw Aber Hafren – yr ail fwyaf yn y byd. Bron i hanner canrif wedi'r ffotograffau, mae'r gwaith yn cael bywyd newydd yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a chodi lefel y môr.