Digwyddiadau

Sgwrs: Sgwrs Amgueddfa AR-LEIN: Dathlu llyfr newydd am cerameg Cymreig

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
24 Tachwedd 2022, 6yh - Cymraeg, 7yh - Saesneg
Pris Talwch beth allwch chi
Addasrwydd Pawb

Pot serameg gwyn wedi ei addurno gyda blodau.

Amgueddfa Cymru yw cartref y casgliad gorau yn y byd o grochenwaith a phorslen Cymreig. Does dim un llyfr newydd wedi'i gyhoeddi ar y pwnc ers hanner can mlynedd – tan nawr. Ymunwch â ni i ddathlu cyhoeddi'r llyfr newydd hwn, sy'n dangos sut y tyfodd y casgliad prydferth ac yn rhannu gwybodaeth newydd am y diwydiant a'i grefftau. Byddwch chi'n clywed am dwf y diwydiant cerameg yn ne Cymru rhwng 1764 a 1922 – hanes diddorol o falchder lleol ac uchelgais rhyngwladol. Byddwn ni hefyd yn dysgu am y bobl tu ôl i lwyddiannau'r diwydiant yn wyneb heriau ymarferol ac economaidd mawr. Yn anad dim, mae'r llyfr yn rhoi cydnabyddiaeth ddilys o'r diwedd i grochenwaith a phorslen ymhlith llwyddiannau diwydiannol a chelfyddydol Cymru.

6pm - Cynhelir y sesiwn yma yn Gymraeg Tocynnau 
7pm - Cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg Tickets 
 

Gwybodaeth Bwysig

Bydd y sgwrs hon yn cael ei chynnal fel gweminar by war Zoom. Bydd e-bost gyda dolen i ymuno â’r weminar yn cael eu hanfon i chi 24 awr cyn y sgwrs. Gall hefyd gael mynediad i’r ddolen yma trwy eich porth cwsmer Amguedda Cymru ar-lein. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sbwriel os na allwch weld yr e-byst a chysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk os oes problem.

Bydd y weminar ar gael i'w gwylio am 48 awr wedi'r digwyddiad a bydd dolen yn cael ei gyrru i chi drwy e-bost yn dilyn y sgwrs.

Os ydych chi’n prynu llyfrau yn gysylltiedig â’r sgwrs hon, cofiwch y bydd gwerthiant yn dod i ben 10 munud cyn y digwyddiad, ac y bydd pob archeb yn cael ei phostio ar ôl yr amser hwn. 

Digwyddiadau