Digwyddiadau

Digwyddiad: BBC 100 yng Nghymru: Trwy’r Lens

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
11 Chwefror 2023, 10am - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
BBC 100 yng Nghymru: Trwy’r Lens

BBC 100 yng Nghymru: Trwy’r Lens

Mae’r BBC wedi creu pob math o raglenni eiconig dros y 100 mlynedd ddiwethaf, nifer ohonynt wedi eu cynhyrchu yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad hwn i’r teulu yn dathlu’r rhaglenni hyn, a hefyd y sgiliau sydd eu hangen i greu hud a lledrith ar y sgrin.

Beth allwn ni ei wneud ar y diwrnod?

Gweithgareddau galw-heibio yw’r rhain, a does dim angen archebu -

  • Cael anaf ffug a dysgu mwy am golur effeithiau arbennig.

  • Chwarae gêm effeithiau sain - paru’r sŵn a’r stori.

  • Dysgu am Laniad y Lleuad ym 1969 - un o’r digwyddiadau mwyaf i’r BBC eu darlledu.

  • Creu eich bwletin newyddion eich hun a’i ddarllen wrth y ddesg newyddion yn yr arddangosfa.

  • Camu i esgidiau Iolo Williams a mynd ar helfa fywyd gwyllt o gwmpas yr Amgueddfa.

  • Gweithdy crefftau teledu.

  • Gwisgo i fyny a chymryd hunlun.

  • Dyfalu o ba raglen y daw’r gerddoriaeth sy’n cael ei pherfformio gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 11am a 2pm.

  • Creu bwletin tywydd o flaen sgrin werdd.
  • Ydych chi’n eistedd yn gysurus? Dewch i gael stori. Addas i blant iau. Sesiynau Cymraeg a Saesneg ar gael. 12pm.
  • ‘Diffodd Eich Setiau Teledu’ Trwy ddawns a geiriau, mae’r Artist Symudiad Patrik Gabo yn rhannu stori sy’n edrych i’r dyfodol drwy hidlo trwy’r newyddion a’r ffordd y mae’n siapio ein gobeithion a’n breuddwydion. A allwn ni fyth fod yn unedig? Allwn ni ddychmygu byd lle mae digwyddiadau llawen yn cymryd lle trasiedi? 12pm a 1pm. Lleoliad wrth y ddesg newyddion 

Mae’r gweithgareddau hyn yn digwydd ar amser penodol, ac mae angen archebu -

  • Dosbarthiadau colur effeithiau arbennig. Bydd y dosbarth hwn yn cael ei gynnal gan brif artist colur Casualty. Bydd hi’n siarad am ei gyrfa ac yna’n disgrifio’r broses o roi colur effeithiau arbennig, gan arddangos y broses ar fodel.12+  Archebwch Yma

  • Dosbarth gwisgoedd: o’r fflat i’r ffantastig! - gan Ivy Hible. Bydd Ivy yn dangos rhai o gyfrinachau dylunio gwisgoedd. Bydd hi’n sôn sut y daeth hi’n ddylunydd gwisgoedd, ac yn arddangos y broses mewn dosbarth meistr. 12+  Archebwch Yma

  • Teithiau tywys o amgylch lleoliadau ffilmio Doctor Who yn yr Amgueddfa. Ymunwch â ni am daith fywiog o gwmpas yr Amgueddfa, yn Gymraeg.6+ Archebwch Yma

  • Sgwrs: Peryglon Teithio mewn Amser. Mae teithio mewn amser yn swnio’n hwyl - ond mae’n llawn peryglon! Dewch i glywed trafodaeth ddifyr am deithio mewn amser gan Phill Wallace o Gymdeithas Seryddol Caerdydd.12+ Archebwch Yma

  • Sgwrs: Gwyddoniaeth Doctor Who. Dewch i ddysgu am y wyddoniaeth go iawn sydd i’w gweld ar gyfres Doctor Who. Golwg grafog ar wyddoniaeth gan Phill Wallace o Gymdeithas Seryddol Caerdydd.12+ Archebwch Yma

Mae Aelodau Amgueddfa Cymru yn cael mynediad cynnar at docynnau i’r gweithgareddau sydd angen archebu. 

Mae Bloedd Amgueddfa Cymru yn gwahodd pobl greadigol rhwng 16 a 25 oed, ac unrhyw grwpiau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, i gydweithio gyda Amgueddfa Cymru i ddatblygu projectau gaiff eu harwain gan bobl ifanc, sydd yn cynnwys pobl ifanc, neu sydd o fudd i bobl ifanc 11-25 oed, yn Gymraeg, Saesneg, BSL ac ieithoedd eraill.  

 

Digwyddiadau eraill o ddiddordeb

 

Digwyddiadau