Digwyddiadau

Digwyddiad: Gyda'r Hwyr: Gwyddoniaeth Ar Waith

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
22 Chwefror 2023, 6-9pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Gwyddoniaeth Ar Waith

Gyda'r Hwyr

Cyfle i chi gwrdd â gwyddonwyr a pheirianwyr o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd, a mwynhau llond trol o weithgareddau rhyngweithiol, hwyliog... a chael bod yn yr amgueddfa wedi iddi dywyllu!

 

Beth gawn ni ei wneud?

  • Cwrdd â’r curaduron Gwyddorau Naturiol a blasu ambell drychfil bwytadwy!

  • Chwarae ein gêm ‘Bridge of Lies’, a rhoi hop, cam a naid i’r llinell derfyn.

  • Darganfod sut fyddwn ni’n gwrando am graciau mewn deunyddiau. 

  • Dysgu sut i ddefnyddio telesgop a gwylio’r sêr.

  • Dysgu am ficroblastigau ac ailgylchu plastig yn y fan a’r lle!

  • Chwarae gyda’r Gerddorfa Ynni.

  • Sut caiff ffosilau eu ffurfio? Cyfle i weld sbesimenau anhygoel.

  • Sgwrsio gyda’n curadur fertebratau ynghylch y cynnyrch anifeiliaid anghyfreithlon sy’n cael eu cludo i’r wlad - a sut mae hynny’n peryglu anifeiliaid. Gyda Dr Rhys Jones!

  • Hen ddillad newydd! Dysgwch fwy am drwsio ac ailgylchu dillad.

  • Wyddoch chi beth sydd yn eich ffôn symudol? Dysgwch pa ddeunyddiau sydd yn ein ffonau, a lle maen nhw’n dod.

  • Ymuno â’r chwyldro garddio a chreu bomiau hadau.

  • Codio robot i wneud iddo symud.

  • Chwarae gyda deunyddiau magnetig.

  • A llawer mwy!

 

Bydd caffi a siop yr Amgueddfa ar agor drwy’r noson.

Digwyddiadau