Digwyddiadau

Sgwrs: Sgwrs Amgueddfa AR LEIN: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - Dathlu Mary Anning!

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
8 Mawrth 2023, 6pm
Pris Talwch Beth Gallwch - Rhodd a awgrymir £5
Addasrwydd Pawb
 Teitl Sgwrs Amgueddfa - Museum Talks ar cefndir bwrdd sialc

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod rydyn ni’n dathlu bywyd y palaeontolegydd Mary Anning (1799–1847). Yn ystod oes Mary, doedd gan ferched o’r dosbarthiadau is ddim mynediad at addysg dda, ond er gwaethaf hyn llwyddodd i ddod yn arbenigwraig ar ffosilau, a daeth yn enwog am ei darganfyddiadau a’i sgiliau. Roedd holl ddaearegwyr mawr y cyfnod yn gwybod amdani, a byddai llawer ohonynt yn gofyn ei chyngor. Mae’r fenyw ryfeddol hon yn ysbrydoliaeth i ni gyd, ac mae ei darganfyddiadau niferus yn haeddu cofeb barhaol.  

 

Llynedd cafodd cerflun o Mary Anning ei godi, yn edrych tua’r môr yn yr ardal lle byddai’n chwilio am ffosilau. Cafodd y cerflun ei osod diolch i ymgyrch genedlaethol a ddechreuwyd gan ferch ysgol leol, oedd yn siomedig nad oedd dim byd i goffáu Mary yn ei thref enedigol, Lyme Regis. Bydd fersiwn bach o’r cerflun i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 27 Mawrth 2023. Cerflun o Mary a’i chi, Tray, yw hwn a chafodd ei greu gan yr artist Denise Dutton wrth iddi baratoi’r fersiwn llawn.  

 
Cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg. 

Tocynau   

Gwybodaeth Bwysig

Bydd y sgwrs hon yn cael ei chynnal fel gweminar by war Zoom. Bydd e-bost gyda dolen i ymuno â’r weminar yn cael eu hanfon i chi 24 awr cyn y sgwrs. Gall hefyd gael mynediad i’r ddolen yma trwy eich porth cwsmer Amguedda Cymru ar-lein. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sbwriel os na allwch weld yr e-byst a chysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk os oes problem.

Bydd y weminar ar gael i'w gwylio am 48 awr wedi'r digwyddiad a bydd dolen yn cael ei gyrru i chi drwy e-bost yn dilyn y sgwrs.

Digwyddiadau