Digwyddiadau

Arddangosfa: Datgelu Portrait of Monsieur Jules Dejouy gan Édouard Manet

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
17 Ionawr 2023 – 1 Ionawr 2025
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Portread o Jules Dejouy gan Édouard Manet.

Cafodd Portrait de Monsieur Jules Dejouy (1879) gan Édouard Manet (1832-1883) ei gaffael gan Amgueddfa Cymru yn 2019 wedi dros 90 o flynyddoedd mewn casgliad preifat. Jules Dejouy oedd y perchennog gwreiddiol, ac mae’r gwaith olew ar gynfas yn parhau mewn cyflwr bron heb ei gyffwrdd.

Diolch i gefnogaeth Cronfa Adfer Amgueddfa TEFAF, Sefydliad Finnis Scott, a Chyfeillion Amgueddfa Cymru, mae’r gwaith bellach wedi’i adfer gan arbenigwyr Amgueddfa Cymru.

Gan ddefnyddio pelydr-x a thechnegau gwyddonol eraill, mae Adam Webster o’n Tîm Cadwraeth wedi datgelu cyfrinachau’r portread prin hwn. Mae gwaith glanhau wedi dod â’r lliwiau a’r brwswaith cywrain i’r amlwg am y tro cyntaf ers degawdau.

Darllen ein blog: Cadwraeth y portraead Jules Dejouy gan Édouard Manet.

Digwyddiadau