Digwyddiadau

Digwyddiad: Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
Penwythnos y Pasg – Dydd Gwener 7 – Dydd Llun 10 Ebrill , 10am - 3pm
Pris £4 yr helfa
Addasrwydd Teuluoedd

Cwningod Pasg 

Datryswch y posau yn ein Helfa Basg er mwyn hawlio eich siocled blasus! 

Prynwch eich tocyn heddiw er mwyn osgoi cael eich siomi! Tocynau

Dewch i drio'n crefftau ciwt a thrawsnewid yn dditectif pedair coes, cyn mynd ar drywydd y cwningod chwareus sy'n cuddio o gwmpas yr Amgueddfa. 

Bydd tair her llawn hwyl ar eich cyfer!  

1. Cofia gyfri...

Mae gan bob un o'r cwningod cudd fasged o wyau. Sawl wy sydd yn eu basgedi? Ysgrifenwch y rhif yn yr wy gwag ar y daflen.

2. Gweld y Gwahaniaeth... defnyddiwch eich llygaid craff i weld y gwahaniaeth rhwng gwahanol gwningod yr Amgueddfa. 

3. Yr Wy Aur... ac i chi dditectifs gwerth eich halen, allwch chi ddod o hyd i'r wy aur bach iawn iawn sy'n cuddio yn yr amgueddfa? 

 

£4 yr helfa - yn cynnwys gwobr siocled (gwobr heb gynnyrch laeth ar gael)

 

Beth ydw i'n ei gael?  

  • Llwybr lliw A3 gyda gweithgaredd crefft 
  • Gwobr siocled (ar ôl cwblhau'r llwybr).   Gwobr heb gynnyrch laeth ar gael.   

Ble ydw i'n cael y llwybr?  

Archebwch ymlaen llaw (gweler isod)

Mi fydd angen i chi scanio'r tocyn digidol wrth mynedfa'r amgueddfa gyda aelod o staff er mwyn casglu'r pecyn gweithgaredd crefft. 

Gwybodaeth Ychwanegol  

  • Iaith - Mae'r llwybrau'n ddwyieithog.  
  • Oedran - Yn addas ar gyfer plant 4+ oed , efallai y bydd angen help ar blant iau. 
  • Cost - Mae'r gost yn cynnwys un llwybr gydag un wobr.  Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.    
  • Mae'r llwybr ar gael ym mhob un o safleoedd yr Amgueddfa Genedlaethol ac mae'r un peth ar bob safle : Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru.  
  • Lle bo'n bosibl, rydym wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio'r rhain eto. 
  • Mae aelodau yr Amgueddfa yn cael gostyngiad o 20% am tocynnau Helfa Basg. 

 

Tocynau

Digwyddiadau