Digwyddiad: Y Gobaith

Mae Tân Cerdd yn eich gwahodd i noson o gerddoriaeth a diwylliant Du.
Dewch i ddathlu lansiad EP newydd o'r enw The HOPE (Y Gobaith) ar noson yn cynnwys 3 awr o gerddoriaeth gan artistiaid hynod dalentog Du Cymreig, a gomisiynwyd gan Tân Cerdd trwy ddefnyddio cyllid PRSF i greu cerddoriaeth wreiddiol sy'n cymryd ysbrydoliaeth o gospel.
Mae'r EP newydd hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr hyn sydd wedi dod o'r blaen ac yn dathlu sut mae'n dal i ysbrydoli a dylanwadu ar gerddorion Du heddiw.
Yn rhan o'r noson, bydd sesiwn holi ac ateb i aelodau'r gynulleidfa siarad gyda'r artistiaid ac i Gyfarwyddwyr Tân Cerdd i ddysgu mwy am y sîn gerddoriaeth a chelf Du yma yng Nghymru, a byddwn ni'n gweini bwyd blasus o'r Caribî hefyd.
Ymgollwch yn niwylliant Du a chael eich holl synhwyrau wedi eu hysgogi gyda cherddoriaeth newydd a bwyd da yn Amgueddfa Cymru.
Mae Y Gobaith yn digwydd yn ystod Mwy o Amser yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd yr amgueddfa ar agor nes 9pm i chi grwydro'r orielau.