Digwyddiad: Llwyfan Newydd: CYFRANIADAU O'R CARIBÎ

Ymunwch â ni mewn profiad ymdrwythol yn canolbwyntio ar straeon coll cymunedau Windrush yn sector mwyngloddio Cymru, sy’n llawn gwytnwch a chryfder yn wyneb adfyd.
Byddwch ymysg y rhai cyntaf i weld drama hudolus Anthony Wright, Justice Is Served, sy'n gyfuniad o ddarllediad radio a pherfformiad theatr. Wedi'i chyfarwyddo gan Robert Marrable a'i chynhyrchu gan Gareth Clarke, mae drama Anthony – sydd wedi'i hysbrydoli gan brofiad ei dad – yn ddarlun o fywyd plentyn o Jamaica ar ôl cyrraedd Cymru yn y 1950au.
Byddwn ni hefyd yn dangos rhaglen ddogfen Nathan Blake, Wales's Black Miners.
"Taith Nathan Blake i ddod o hyd i'r gwir am y dynion dewr, a lafuriodd ochr yn ochr â glowyr gwyn. Mae'n myfyrio ar beth mae'n ei olygu i fod yn ddu ac yn Gymro, yn y gorffennol ac yn y presennol, a beth sydd angen newid o hyd."
Wrth dalu teyrnged i'r gorffennol, ein nod yw codi'r llen ar y teithiau anhygoel sydd wedi helpu'r to hŷn a'r to iau i gyrraedd Llwyfan Newydd. Mae'r digwyddiad hwn yn ddathliad o wytnwch, yn dyst i ewyllys y bobl a wnaeth oresgyn rhwystrau di-ri.
Cyfeiriad archebu tocynnau
Mae mynediad Darlithfa Reardon Smith ar Blas y Parc, tu cefn i Amgueddfa Cymru.
Dolen geoleoliad:
https://goo.gl/maps/uHui8o8pv58FMctR7
Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd wrth gyrraedd, mae croeso i chi gysylltu ag aaron.schoburgh@amgueddfacymru.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at eich gweld