Digwyddiad: Cinio dydd Sul Nadoligaidd
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Dewch i fwynhau cinio Sul dau gwrs Nadoligaidd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mwynhewch ginio Sul dau gwrs blasus yn ein bwyty ar rai dyddiau Sul ym mis Rhagfyr, cyn mynd am dro o amgylch ein hamgueddfa hanesyddol hardd. Dewiswch dwrci, cig eidion neu rost cnau fegan gyda’r trimins i gyd, a phwdin Nadoligaidd i orffen.
Cofiwch archebu tocyn ar gyfer pob person yn eich grŵp.
Mae angen byrddau yn ôl erbyn diwedd eich slot amser – diolch yn fawr.