Digwyddiad: Digwyddiad Ecsgliwsif: Nadolig y Noddwyr

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad ecsgliwsif Nadolig y Noddwyr, dan arweiniad Jane Richardson, ein Prif Weithredwr newydd. Byddwch yn cael eich croesawu wrth gyrraedd gyda derbyniad diodydd a canapés a cheir sgyrsiau gan ein curaduron i ddilyn. Gallwch hefyd rhoi cynnig ar y raffl Nadolig er mwyn ennill gwobrau ardderchog Amgueddfa Cymru a chefnogi ein gwaith.
Bydd y gwobrau yn cynnwys:
- Aelodaeth Noddwr i ffrind
- Taith bersonol o amgylch gerddi ain Ffagan
- Hamper Nadoligaidd
- Print o Westy'r Vulcan wedi'i lofnodi a'i rifo
Mae ein Noddwyr yn mwynhau perthynas ddyfnach ag Amgueddfa Cymru tra hefyd yn cefnogi'n gwaith, gan ein helpu i ysbrydoli pawb trwy stori Cymru.
Pris tocynnau yw £28. Cysylltwch â: datblygu@amgueddfacymru.ac.uk
i drafod drafod archebu tocyn.
Mae'r manteision o fod yn noddwr hefyd yn cynnwys:
Gwahoddiad i ddangosiadau preifat o arddangosfeydd mawr.
Cyfle i gwrdd ag arbenigwyr a staff curadurol mewn digwyddiadau i Noddwyr, a theithiau 'tu ôl i'r llenni'.
Digwyddiad Nadoligaidd blynyddol ar gyfer Noddwyr a gwesteion, un o nosweithiau mwyaf poblogaidd Calendr Digwyddiadau’r Noddwyr
Y newyddion diweddaraf gan Amgueddfa Cymru, gan gynnwys dau gop'r flwyddyn o gylchlythyr y noddwyr, Nawdd.
Gostyngiad o 10% yn siopau, caffis a bwytai Amgueddfa Cymru
Eisiau gwybod mwy am ddod yn Noddwr? Cysylltwch â datblygu@amgueddfacymru.ac.uk neu ewch i Ymuno â'n Cynllun Noddwyr | Amgueddfa Cymru.