Digwyddiad:PARTI PAENTIO: Celf i'r Teulu yn yr Amgueddfa
Ymunwch â ni dros yr haf am barti paentio teuluol heb ei ail!
Ydych chi’n chwilio am brofiad hwyliog ac addysgiadol i’r teulu dros yr haf? Mae gennym ni’r ateb.
Os ydych chi’n mwynhau paentio’n barod neu’n awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd yn ystod y gwyliau ysgol, mae hwn yn ddigwyddiad y gall y teulu cyfan ei fwynhau gyda’i gilydd.
Dewch i ddatgloi eich doniau creadigol, ac ymunwch â ni i roi eich cyffyrddiad unigryw ar greu paentiad teuluol o gasgliad celf yr Amgueddfa Genedlaethol.
Mae’r parti paentio unigryw hwn, sy’n cael ei gynnal ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn un na fyddwch am ei fethu.
Dewch i greu atgofion am oes. Mae croeso i bawb, felly dewch â’r teulu cyfan! (argymhellir 6+ oed).
Pwnc: GLAW - AUVERS GAN VAN GOGH
Oeddech chi’n gwybod bod ganddon ni lun enwog gan Van Gogh sy’n cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd?
Nid yn unig y cewch gyfle i weld y paentiad yn agos, ond mae hwn yn gyfle prin i ail-greu eich fersiwn eich hunan o baentiad Van Gogh, gan ddefnyddio gwahanol frwshys paent, a dulliau hwyliog o wneud marciau, fel paentio â bysedd a deunyddiau naturiol.
Yr artist lleol Rachel Rasmussen sy’n cynnal y parti paentio teuluol. Bydd hi’n eich arwain drwy gyfarwyddiadau hawdd, cam wrth gam, wrth baentio gyda chi.
- Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu ac yn cael eu cynnwys ym mhris y tocyn.
- Bydd siop goffi’r Amgueddfa ar agor tan 4.30pm. Ewch i nôl paned ac ymunwch yn yr hwyl.
- Mae hwn yn ddigwyddiad teuluol sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu (argymhellir 6+ oed).
- Ni ellir ad-dalu tocynnau ac mae llefydd yn brin iawn. Bachwch eich tocynnau nawr!
- Mae’r tocyn yn cynnwys ymweliad unigryw ag Oriel yr Argraffiadwyr (ar ôl i’r oriel gau i’r cyhoedd). Dyma gyfle i weld ac edmygu y paentiad gwreiddiol gan Van Gogh y byddwch yn ei ail-greu.
- Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno a’i harwain yn iaith gyntaf yr artist, sef Saesneg.
Gwybodaeth
Ymweld
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
- Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadLleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safle >Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd