Digwyddiad:Datganiad ar yr Organ
Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 28 Mawrth, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.
Ar ôl hyfforddiant gyda Dr Sidney Campbell yng Nghapel San Siôr, Castell Windsor, enillodd Relf Clark ysgoloriaeth i Rydychen, lle bu’n astudio gyda Robert Sherlaw Johnson ac F.W. Sternfeld, ac yn cynorthwyo yn Eglwys y Brifysgol; yna, yn ugain oed, ac yntau'n fyfyriwr israddedig o hyd, daeth yn Gymrawd arobryn Coleg Brenhinol yr Organyddion. Cwblhaodd ei addysg gerddorol ym Mhrifysgol Llundain, lle bu’n darllen cerddoleg, ac ym Mhrifysgol Reading, lle cafodd ei addysgu gan David Sanger a lle enillodd ragoriaeth mewn astudiaethau perfformio a gradd doethuriaeth am waith ar Robert Hope-Jones.
Mae Dr Clark yn ysgrifennu am gerddoriaeth, ynghyd â darlithio ar y pwnc, ac mae wedi cyfrannu at The Oxford Dictionary of National Biography, The New Grove Dictionary of Music & Musicians, a chyfnodolion cerddorol o amrywiol fathau. Rhwng 1990 a 2005, bu'n aelod o gyngor Sefydliad Astudiaethau Organ Prydain, ac am saith o'r blynyddoedd hynny ef oedd swyddog cyhoeddiadau'r sefydliad. Mae'n aelod oes mygedol o Gymdeithas Elgar gan iddo fod yn un o'i swyddogion rhwng 1995 a 2007; mae ei gyhoeddiadau'n cynnwys pedair cyfrol o ysgrifau perthynol i Elgar; ac ymddangosodd ar DVD Prifysgol Durham ynghylch Organ Sonata, Op.28 Elgar. Mae'n cyfansoddi ar gyfer yr organ ac wedi rhoi datganiadau mewn sawl rhan o'r DU.
Yn 1982, ar ôl mynychu'r hyn sydd bellach yn Brifysgol y Gyfraith, cymhwysodd Relf Clark i fod yn gyfreithiwr. Ar ôl treulio degawd yn rôl cyfreithiwr mewnol gyda Costain Group plc, yn 1993 dychwelodd i bractis preifat, ac o 1998 tan 2017, pan ymddeolodd, roedd gyda chwmni cyfreithiol yn Ninas Llundain. Ymhlith ei gleientiaid yno yr oedd Cymdeithas Frenhinol Cerddorion Prydain Fawr, ac mae bellach yn aelod oes mygedol ohoni.
Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol.
Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.
Gwybodaeth
Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).
Ymweld
Oriau Agor
10am–5pm. Orielau'n cau am 4.45pm.
Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i Dydd Sul. Cau Dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc
Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
- Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadLleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safle >Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd