Digwyddiadau

ArddangosfaChalkie Davies: ei stamp ar yr NME

Wedi'i Orffen
9 Mai6 Medi 2015
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Camodd y Cymro Chalkie Davies i’r llwyfan Roc a Rôl ym 1973 ar ôl tynnu lluniau o David Bowie ar ei noson olaf fel Ziggy Stardust. Bu’n gweithio fel ffotograffydd staff yr NME (New Musical Express) rhwng 1975-79 gan saethu lluniau ar gyfer cloriau ac erthyglau am artistiaid mwyaf dylanwadol yr oes – gan gynnwys Elvis Costello, Nick Lowe, Ian Dury, Debbie Harry, Paul McCartney, The Clash, The Ramones a The Rolling Stones.

Ym 1980 helpodd i lansio cylchgrawn The Face gyda’i hen olygydd yn yr NME Nick Logan, gan saethu nifer o straeon clawr. Trodd ei law hefyd at gynhyrchu cloriau recordiau ar gyfer artistiaid fel Thin Lizzy, Elvis Costello, The Pretenders, The Specials, Pete Townshend a David Bowie.

Cynhyrchodd gyfres o bortreadau ffurfiol o enwogion cerddorol y cyfnod. Y gweithiau yma, fu’n gudd am flynyddoedd, ynghyd â detholiad o’i waith gorau dros yr NME a welir yn yr arddangosfa hon. 

Mewn partneriaeth ag

nme

Rhagor o ddeunydd fideo gan Chalkie am ei arddangosfa

I brynu catalog yr arddangosfa, sy’n llawn ffotograffau du a gwyn o’r arddangosfa a mwy, ewch i’n

siop ar-lein.

Digwyddiadau Cysylltiedig 

Cystadleuaeth Chalkie Davies: Ei Stamp ar yr NME

Enillwch brint wedi'i arwyddo gan Chalkie Davies, a llawer mwy. Mae manylion ar sut i gymryd rhan i'w canfod ar ein tudalen gystadleuthau.

Lemmy Kilmister © Chalkie Davies

Elvis Costello © Chalkie Davies

The Specials © Chalkie Davies

The Clash © Chalkie Davies

Digwyddiadau