Digwyddiadau

SgwrsTeithiau Tywys Bregus? Am Ddim

Wedi'i Orffen
Pob ddydd Mercher a dydd Sul, 2pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Archebwch wrth y Dderbynfa wrth gyrraedd

Dewch ar daith gyda thywysydd gwirfoddol i ddarganfod cerameg gyfoes; dysgu sut y cawsant eu creu, y dylanwadau a’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r gwaith, a darganfod posibiliadau artistig a mynegiannol cerameg fel deunydd.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys gweithiau allweddol o’r casgliad, gweithiau newydd uchelgeisiol gan bedwar artist sy’n gweithio yng Nghymru, Claire Curneen, Walter Keeler, Lowri Davies ac Adam Buick, a gweithiau comisiwn cyffrous gan Phoebe Cummings, Clare Twomey a Keith Harrison.

Caiff arddangosfa Bregus? ei hariannu gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a’i chefnogi gan Ymddiriedolaeth Derek Williams.

<p>David Cushway, <em>Fragments (Teapot),</em> 2006-7 © yr artist</p>

David Cushway, Fragments (Teapot), 2006-7 © yr artist

logo ymddiriedolaeth colwinston
Digwyddiadau