Digwyddiadau

ArddangosfaUffern Rhyfel: Brwydr Coed Mametz a’r Celfyddydau

Wedi'i Orffen
30 Ebrill4 Medi 2016
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Mae 2016 yn ganmlwyddiant Brwydr Coed Mametz, un o’r brwydrau mwyaf gwaedlyd i gael ei hymladd gan filwyr Cymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r frwydr, sydd wedi’i serio ar gof y genedl, wedi dod i gynrychioli dewrder ac aberth milwyr Cymreig y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd y ddelfryd arwrol hon ei chofnodi gan yr artist Christopher Williams yn ei baentiad Cyrch yr Adran Gymreig yng Nghoed Mametz, darlun a gomisiynwyd gan David Lloyd George yn 1916.

Christopher Williams (1873-1934), Cyrch yr Adran Gymreig yng Nghoed Mametz,1916 © Amgueddfa Cymru

Bu’r ymladd tanbaid yn ysbrydoliaeth i artistiaid oedd yn rhan o’r frwydr, fel Siegfried Sassoon, Robert Graves, David Jones a Llewelyn Wyn Griffith, wnaeth rannu eu profiadau â’r byd. Bydd yr arddangosfa hon yn edrych ar y gwaith celf a’r llenyddiaeth a grëwyd gan rai oedd yn bresennol yn y frwydr, yn ogystal â gwaith diweddarach wedi’i ysbrydoli gan yr ymladd. Bydd hefyd yn dangos sut mae’r frwydr yn dal i gipio’r dychymyg heddiw.

Yn 2016 bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn dathlu eu penblwydd yn 70 gyda’r perfformiad cyntaf erioed o In Parenthesis – addasiad y cyfansoddwr Iain Bell o gerdd epig David Jones, y bardd, awdur ac artist o Gymru. Dysgwch fwy am yr opera a’r gerdd a’i hysbrydolodd ar wefan inparenthesis.org.uk

Digwyddiadau sy’n cefnogi’r arddangosfa:

 

<em>Care of Wounded Soliders </em>

Margaret Lindsay Williams, Care of Wounded Soliders © Cardiff and Vale University Health Board

David Jones (1895-1974) Wyneblun ar gyfer 'In Parenthesis'

David Jones (1895-1974)
Wyneblun ar gyfer 'In Parenthesis' 1937
Pensil, dyfrlliw ac inc ar bapur
Prynwyd oddi wrth Oriel Anthony D'Offay, 1975

logo Cymru'n Cofio
Digwyddiadau