Digwyddiadau

ArddangosfaO Bacon i Doig: Campweithiau Modern o Gasgliad Preifat

18 Chwefror 201731 Ionawr 2018
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Daw un o gasgliadau preifat pwysicaf y DU o gelf fodern Brydeinig i Gaerdydd. Mae’r casgliad wedi’i greu dros ddegawdau gyda’r gweithiau’n aml yn cael eu prynu cyn i’r artistiaid ddod yn enwog, ac mae’n cynnwys gwaith gan lawer o artistiaid Prydeinig gorau’r 20fed ganrif gan gynnwys Francis Bacon, Lucian Freud, Barbara Hepworth a David Hockney.

Mae gwybodaeth gelfyddydol ac angerdd y casglwyr wedi creu casgliad arbennig, a gwaith pob un o’r artistiaid yn gampweithiau fyddai’n haeddu eu lle yn rhai o amgueddfeydd gorau’r byd. Mae’n cynnwys dau waith eithriadol o’r 1950au a’r 60au gan Francis Bacon, gaiff ei ystyried yn un o artistiaid gorau’r cyfnod modern.

Ymysg yr uchafbwyntiau eraill mae portread gan Freud, a chynfasau argraffiadol gan Frank Auerbach a Leon Kossoff. Ynghyd â’r paentiadau ffigurol mae gweithiau mwy haniaethol gan yr artist Ben Nicholson a cherfluniau gan Barbara Hepworth, Henry Moore ac Anthony Caro. Mae digon o gelf gyfoes i’w gweld hefyd gyda phaentiadau gan Peter Doig a dwy fâs bwysig gan Grayson Perry, un o enillwyr gwobr Turner.

Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r perchnogion am eu haelioni wrth ganiatáu i’r gweithiau hyn gael eu harddangos yng Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Francis Bacon, Henrietta Moraes, 1966 © Ystâd Francis Bacon. Cedwir pob hawl. DACS 2017

Peter Doig, Di-deitl, 2001-02 © Peter Doig. Cedwir pob hawl, DACS 2017

Ben Nicholson, 1932 (still life - violin) © Angela Verren Taunt. Cedwir pob hawl, DACS 2017

Digwyddiadau