Arddangosfa Arbennig: Deinosoriaid yn Deor
Yn dod i Gymru am y tro cyntaf – wyau ac embryonau deinosor, sydd ymhlith darganfyddiadau mwyaf rhyfeddol y byd.

Deinosoriaid yn Deor
Tan 5 Tachwedd 2017
Codir tâl mynediad. Mae mynediad i weddill yr Amgueddfa am ddim.
Mae’n cynnwys sgerbydau a replicas deinosoriaid maint llawn, modelau o embryonau ac wyau deinosoriaid y gellir eu cyffwrdd, a nyth deinosor enfawr, 2.5 metr hyd yn oed. Bydd cyfle i
- Ddod wyneb yn wyneb â'r deinosoriaid
- Dysgu am fywyd teuluol deinosor a sut y byddent yn gofalu am eu babanod
- Dysgu adnabod wyau gwahanol ddeinosoriaid, ar sail eu siâp a gwead.
- Dysgu am balaeontolegwyr a'u darganfyddiadau deinosor
- Bod yn balaeontolegydd a rhoi cynnig ar ein ‘Pwll Palu Mawr’.
Tocynnau
- £7 oedolion (18+)
- £5 gostyngiadau (digyflog, dros 60 oed, mewn addysg llawn amser a gyda cherdyn myfyriwr, anabl)
- £3 plant (4-17 oed)
- £17 teulu (2 oedolyn a 2 blentyn)
- £13 teulu (1 oedolyn a 3 o blant)
Gallwch brynu tocynnau ymlaen llaw o Ticketline neu yn yr Amgueddfa ar y diwrnod.
Rhaid i blant dan 12 fod yng ngofal oedolyn. Am ddim i blant o dan 3 oed. Ar gyfer archebion ysgol, cysylltwch â’r Adran Addysg ar (029) 2057 3240. Am unrhyw archebion grŵp arall, cysylltwch â Ticketline ar (029) 2023 0130
Gan fod yr arddangosfa Saesneg hon wedi dod o America, rydym wedi creu llyfryn arbennig i’n cynulleidfaoedd Cymraeg. Mae taith ddwyieithog i deuluoedd ar gael hefyd a gweithgareddau i blant bach a mawr!
Digwyddiadau sy’n cefnogi’r arddangosfa
Rhan o Flwyddyn Chwedlau 2017.
Cefnogir yr arddangosfa gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery.
Cefnogir rhaglen weithgareddau addysg Deinosoriaid yn Deor gan Western Power Distribution.
Cynhaliwyd lawnsiad yr arddangosfa trwy nawdd hael SRK Consulting.

E-lyfr newydd Ditectifs y Deinosoriaid!
Chwiliwch am ffosil deinosor, dysgwch am fwyd y deinosoriaid a rhyfeddwch at ba mor fawr oedd traed T. rex, drwy gyfrwng gemau a phosau.




