Digwyddiadau

ArddangosfaAgatha Christie: A life in photographs

Wedi'i Orffen
17 Mehefin3 Medi 2017
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Arddangosfa o ffotograffau, llythyrau ac eiddo personol un o’r awduron mwyaf toreithiog erioed.

Dyma gyfle prin i weld ffotograffau o gasgliad personol Agatha Christie a dynnwyd drwy gydol ei bywyd. Yn ategu pob delwedd mae dyfyniad yng ngeiriau’r awdures ei hun wedi’u tynnu o’i gweithiau cyhoeddedig a’i llythyrau personol. Maent yn cyfleu ei meddyliau a’i theimladau o’i phlentyndod, yn ystod ei dwy briodas a’i hanturiaethau rhyngwladol, i’w blynyddoedd fel awdures fyd-enwog.

Mae’r ffotograffau teuluol yn rhoi golwg unigryw ar ei bywyd ac yn dangos yr Agatha go iawn, yn ferch ifanc fywiog ac anturus yn syrffio ar draeth yn Ne Affrica ac yn sglefrolio ar bier Torquay.

Bydd yno hefyd linell amser yn nodi cerrig milltir allweddol yn ei bywyd, gan gynnwys perfformiad cyntaf y ddrama fwyaf hirhoedlog yn y byd, The Mousetrap, ac achlysur cyhoeddi ei gweithiau enwocaf megis Murder on the Orient Express and And Then There Were None.

Manteisiwch ar gyfle unigryw i gael cip o’r newydd ar fywyd Agatha Christie, a chodi’r llen ar fywyd personol y Teyrn Trosedd.

 

Rhan o Flwyddyn Chwedlau 2017.

Curadwyd yr arddangosfa gan y Christie Archive Trust ac Agatha Christie Ltd gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Colwinston Trust. Arddangosfa deithiol yw hon a gynhyrchwyd yn allanol, felly Saesneg yw ei hiaith

logo ymddiriedolaeth colwinston
logo Agatha Christie Archive Trust
logo Agatha Christie Limited
Digwyddiadau