Digwyddiad: “Hell was Passchendaele”

Rhwng mis Gorffennaf a Thachwedd 1917 bu farw 5,000 o ddynion y diwrnod ar gyfartaledd, wrth ymladd am bentref a 5 milltir o dir diffaith yng Ngwlad Belg.
Roedd glaw di-baid yn llenwi tyllau’r sieliau, gan greu pyllau 10 troedfedd o ddyfnder fyddai’n boddi milwyr clwyfedig. Byddai ceffylau’n bwrw’u pedolau a thanciau cyfan yn diflannu.
Mae Cwmni Theatr Ceridwen, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, yn falch o gyflwyno stori gyffrous am ddewrder, dewisiadau amhosibl, a’r frwydr i oroesi mewn amodau erchyll.
Byddwn yn camu i uffern ar drywydd tri milwr sydd wedi colli eu byddin, gyda gelynion ac erchyllterau o’u cwmpas ym mhobman. Rhaid iddynt ddibynnu ar ei gilydd i oroesi. Un stori yw hon ymhlith miloedd – ond mae’n stori sydd yn rhaid ei gweld er mwyn ei chredu.
Perfformiad Saesneg fydd hwn.
Theatr Reardon Smith
9 Medi - 11:00 - 12:00, 15:00 - 16:00, 18:00 - 19:00
10 Medi - 12:00 - 13:00, 14:30-15:30
Archebu tocynnau events@museumwales.ac.uk