Digwyddiadau

ArddangosfaLlun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn

30 Medi 201711 Mawrth 2018
Dod yn fuan
Pris Am Ddim
Addasrwydd pawb

Mae’r arddangosfa hon yn dathlu rhodd sylweddol gan David Hurn – ffotograffau o’i gasgliad preifat. Cynhelir yr arddangosfa yn yr oriel gyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael ei neilltuo i ffotograffiaeth.

Trwy gydol ei yrfa fel ffotograffydd dogfennol ac aelod o Magnum Photos, mae Hurn wedi bod yn gasglwr ffotograffiaeth brwd. Yn ddiddorol, mae’n casglu ffotograffau trwy eu ffeirio.

Mae’r casgliad yn cynnwys tua 700 o ffotograffau gan rai o enwau mawr ffotograffiaeth yr 20fed a’r 21ain ganrif – pobl fel Henri Cartier-Bresson, Eve Arnold, Sergio Larrain, Bill Brandt, Martine Franck, Bruce Davidson a Martin Parr – yn ogystal ag enwau newydd fel Bieke Depoorter, Clementine Schneidermann, a Newsha Tavakolian.

Mae’r arddangosfa yn ddetholiad o weithiau sy’n adlewyrchu gyrfa a dylanwadau Hurn, ei lygaid am lun da, a’r berthynas y mae wedi’i meithrin â ffotograffwyr eraill ar hyd y daith.

Rydym yn hynod o ddiolchgar i David Hurn am ei rodd hael i Amgueddfa Cymru ac i Magnum Photos am eu cefnogaeth.

Digwyddiadau sy’n cefnogi’r arddangosfa:

Dysgwch ragor am arfer David Hurn o gyfnewid llun am lun ar wefan Magnum

USA. Florida Keys. 1968. © Elliott Erwitt/Magnum Photos

Ffrainc. Provence. Le Brusc. Pwll nofio wedi’i ddylunio gan Alain Capeilleres © Martine Franck/Magnum Photos

DU. Lloegr. New Brighton. O'r gyfres 'The Last Resort'. 1983-85. © Martin Parr/Magnum Photos

Digwyddiadau