Digwyddiadau

DigwyddiadYr Amgueddfa Mewn Ffocws – Tu Ôl i’r Llenni.

2 Tachwedd 2017, 10am - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Diwrnod arbennig ar thema ffotograffiaeth yn canolbwyntio ar waith pobl tu ôl i’r llenni.

Dewch i gwrdd â gwyddonwyr a churaduron yr Amgueddfa wrth iddynt ddangos sut maent yn gwarchod y casgliad anhygoel o ddarluniau ac arteffactau sy’n eiddo i’r genedl.

Dewiswyd y thema ffotograffiaeth i gyd-fynd ag arddangosfa newydd David Hurn, Llun am Lun. Cewch weld sut mae ffotograffiaeth a delweddu yn sgiliau allweddol i guraduron yr Amgueddfa, gan gynnwys y microsgop electron pwerus sy’n archwilio hen wrthrychau am olion paent.

Yr Amgueddfa Mewn Ffocws – Tu Ôl i’r Llenni.

Yr Amgueddfa Mewn Ffocws – Tu Ôl i’r Llenni.

Digwyddiadau