Digwyddiadau

DigwyddiadYr Amgueddfa Gyda’r Hwyr

2 Tachwedd 2017, 6pm - 9pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle Galw heibio

Noson o weithgareddau, dirgelion, arbrofion a theithiau yng ngolau fflachlamp.

  • Dewch i'r 'Ardal Olau' i ddarganfod mwynau a bacteria sy'n goleuo ac i baentio â golau.
  • Beth am gael archoll erchyll neu ddysgu am stwffio anifeiliaid a sgerbydau yn 'Ardal y Corff'?
  • Dewch i'r 'Ardal Lanast' i greu hafoc gyda llosgfynyddoedd a llysnafedd.
  • Yn yr 'Ardal Creu a Symud' gallwch chi fwynhau printio 3D, hedfan drôn neu wneud i sbwriel hedfan!
  • Dewch i 'Ofyn i'r Gwyddonydd' wrth iddyn nhw fynd â chi ar daith fflachlamp i fyd y deinosoriaid.

I gael cyfle i fwynhau pob gweithgaredd mewn 3 awr, bydd yn rhaid i chi stopio amser... yn lwcus i chi, mae ganddon ni'r union weithgaredd!

Caffi yn yr Amgueddfa yn gwerthu diodydd a danteithion.

Bydd yr Orielau Celf ac arddangosfa Deinosoriaid yn Deor ar gau yn ystod y noson.

 

Yr Amgueddfa Gyda’r Hwyr

Yr Amgueddfa Gyda’r Hwyr

Digwyddiadau