Digwyddiadau

DigwyddiadSul y Cofio

Wedi'i Orffen
12 Tachwedd 2017, 10am – 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Mae Sul y Cofio yn yr Amgueddfa yn ffordd unigryw o nodi’r diwrnod.

Bydd pobl mewn gwisgoedd o’r cyfnod wrth law i sgwrsio am fywyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ogystal â gweithdy crefft creu pabi, adrodd straeon a dril gyda milwr modern.

Bydd myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn chwarae cerddoriaeth yn ystod y dydd, o ganeuon hwyliog y cyfnod i’r Caniad Olaf am 11am yn y Brif Neuadd cyn y ddau funud o ddistawrwydd.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys dathliad o ddiwylliant Cymru, gyda sain y delyn yn llenwi Oriel Tirluniau Cymru. Bydd perfformiadau o gerddoriaeth Ffrengig a dawnsio modern hefyd.

Caiff cerddoriaeth newydd, a gomisiynwyd yn arbennig, ei chwarae yn Oriel Derek Williams ynghyd â barddoniaeth yn canolbwyntio ar fenywod yn y cartref.

Dros amser cinio, am 1pm, bydd lleisiau’r Remembrance Sunday Singers yn llenwi’r brif neuadd, gyda pherfformiadau o gerddoriaeth a ail-ddarganfuwyd yn ddiweddar.

 

Sul y Cofio

Sul y Cofio

Sul y Cofio

Sul y Cofio

logo Cymru'n Cofio
Digwyddiadau