Digwyddiadau

DigwyddiadY Ffrynt Cartref

Wedi'i Orffen
27 Ionawr 2018, 10am - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Dewch i ddysgu am fywyd ar y ffrynt cartref yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda llu o weithgareddau gwych.

Bydd arddangosiadau coginio gyda’r hanesydd bwyd Seren Charrington-Hollins, sesiwn ar wisgoedd y cyfnod, a chyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel mesur dogn bwyd, a gwers ddawnsio hyd yn oed!

Bydd Casgliad y Werin Cymru yn ymuno â ni, felly os oes gennych stori i’w rhannu am y Rhyfel Byd Cyntaf gallwch ei huwchlwytho ar y gronfa ddata, i’w rhoi ar gof a chadw. Mae croeso i chi ddod ag unrhyw wrthrychau hefyd, neu bapurau – gallwn eu sganio a bydd yr hanes ar flaenau bysedd cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd stondin hefyd i goffáu Diwrnod Cofio’r Holocost, ac mae croeso i ymwelwyr ddod i ddysgu mwy, ac ysgrifennu at ddau a oroesodd Holocost yr Ail Ryfel Byd a’r gyflafan yn Bosnia, i rannu eich teimladau â nhw.

Seren Charrington-Hollins

Seren Charrington-Hollins

Y Ffrynt Cartref

Digwyddiadau