Hanes Natur

Darganfyddwch amrywiaeth hanes natur Cymru ar y daith hon o lan y môr i'r goedwig a thu hwnt.

Rhyfeddwch at yr heulforgi anferth sy'n crogi uwch eich pen. Hwn yw'r pysgodyn mwyaf o gwmpas ein harfordiroedd (hyd at saith metr a hanner ac yn pwyso 4 tunnell). Mae'n bwyta anifeiliaid bychain o'r enw söoplancton. Gall ei afu ar ei ben ei hun gyfrif am chwarter o bwysau ei gorff.

Heulforgi

Mae clogwyni trawiadol Cymru yn gartref i sawl nythfa o adar môr. Seiliwyd yr olygfa drawiadol yn yr oriel ar Ynys Sgomer, Sir Benfro, un o’r nythfeydd pwysicaf o adar môr yng ngogledd-orllewin Ewrop. Gallwch weld arddangosiadau o'r rhywogaethau yn eu cynefinoedd naturiol yn yr oriel gan gynnwys palod, gwylanod, gwylanwyddau a gwylogod.

Morfil cefngrwm, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Hyd yn oed ar dir sych mae golwg ryfeddol ar y morfil cefngrwm. Cafodd y sgerbwd naw metr (29 troedfedd) hwn o forfil cefngrwm ifanc ei olchi i'r lan ger y Barri ym mis Hydref 1982. Credid iddo gael ei ladd gan ddarn o bren yn ystod storm yn yr Iwerydd wrth deithio gyda'i deulu i'r de am y gaeaf.

Morgrwban lledraidd

Canfuwyd y crwban môr lledrgefn mwyaf a gofnodwyd erioed ar y traeth islaw Castell Harlech ym Medi 1988, ond erbyn hyn mae ganddo ei arddangosfa ei hun yn yr oriel. Dechreuodd y gwryw hwn ei fywyd fel cyw bach tair modfedd ac amcangyfrifir ei fod dros gant oed. Enillodd ei le yn y Guinness Book of Records wrth iddo bwyso 916 cilo a mesur bron yn dri metr o hyd a thros ddau fetr a hanner o asgell i asgell.

Mae coedwigoedd Cymru’n cynnwys coed hyd at 200 oed, ac maent yn cynnal ystod ryfeddol o fywyd gwyllt. Mae blodau, rhedyn a ffyngau'n blodeuo ar wahanol adegau o'r flwyddyn tra bo sioe liwgar o adar, mamaliaid a thrychfilod yn dod â chynnwrf a bywyd i'n coedwigoedd.

Mae'r oriel Amrywiaeth Bywyd yn arddangos amrywiaeth syfrdanol bywyd sydd ar y ddaear mewn ffordd drawiadol. Dewch i weld amrediad o blanhigion ac anifeiliaid gan gynnwys y piserlys pryfysol, llewpard yr eira a'r pryf genwair anferth - sy'n 1.2 metr o hyd.