Cynadleddau

Llogwch Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer eich cynhadledd: cyfleusterau cystadleuol ac unigryw, yng nghanol ein prifddinas.

Cysylltwch â ni

Gofodau amrywiol a chyfleus

Ar gyfer digwyddiadau mwy; gellir cynnal digwyddiad i hyd at 300 o bobl yn ein theatr a'n neuadd fawr.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Gofodau Gweithgar

Rydym ni'n darparu mwy o gyfleon dysgu anffurfiol nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru - mae ystafelloedd ar gael sy'n addas ar gyfer diwrnodau hyfforddiant, gweithdai neu adeiladu tîm.

Rhwydweithio o Lawnsio

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ddelfrydol ar gyfer derbyniad diod, lawnsiad neu ginio nos arbennig - gallwn groesawu hyd at 300 o westeion i'n Neuadd Fawr.

Bwyd a Diod

Mae siop goffi a bwyty'r safle ar agor dryw'r dydd, yn gweini bwyd poeth, byrbrydau a diodydd.

Gall Elior, ein gwasanaethu arlwyo, gyflenwi bwyd bys-a-bawd neu luniaeth i weddu i'ch amserlen chi.

Ar agor i bawb

Os ydych chi'n grwp cymunedol, gorff addysg ffurfiol, elusen gofrestredig neu'n ran o Lywodraeth Cymru, cewch ostyngiad mewn pris llogi diwrnod.

Cysylltwch â ni i weld beth allwch chi ei wneud yma.