Ffilmio ar Leoliad

oriel gelf gyfoes

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gyfleus ac unigryw - yn llawn lleoliadau amrywiol ar gyfer ffilm, teledu a ffotograffiaeth.

Ffilmio Dr Who yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, llun gan BBC Cymru Wales

Gofodau Nodweddiadol

Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ofodau cyfoes, mawr; orielau moethus; ystafelloedd wedi'u haddurno'n glasurol a storfeydd casgliadau hynod. I weld sut y gallwn ni weddu i'ch briff a'ch cyllid,

Ebostiwch y tîm.
Ffilmio Dr Who yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, llun gan BBC Cymru Wales

Ymweld â'r Safle

'Dyn ni'n falch o fod wedi gweithio gyda rhai o raglenni mwyaf y BBC, fel Sherlock a Doctor Who, yn ogystal a nifer helaeth o gwmnïau annibynnol ar raglenni panel, cyfweliadau, perfformiadau a rhaglenni dogfen.

I weld beth sydd ar gael ar y safle, gan gynnwys stafelloed nad sydd ar agor i'r cyhoedd:

Trefnwch ymweliad. Diolch i BBC Cymru Wales am ddefnydd o luniau o ffilmio Doctor Who.

Darlledu Digwyddiadau Byw

Ar gyfer digwyddiadau byw a darllediadau allanol, mae modd llogi ein Neuadd Fawr ar gyfer seremonïau gwobrau a lawnsiadau.

Mae lle i 340 o bobl ar theatr ein safle, sydd wedi ei addurno'n syml mewn steil clasurol.

Cyfweld, Perfformio a Fideos Cerddoriaeth

Yn ein orielau cyfoes fe ddewch o hyd i ofodau glân, enfawr, sy'n llawn celf a gosodweithiau unigryw.

Cysylltwch â ni i weld beth allwch chi ei wneud yno.

Cefnogwch Ni

Rydym ni'n darparu mwy o gyfleon addysg anffurfiol nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, a'n gofalu am dros bum miliwn o wrthrychau hanesyddol a gwyddonol.

Wrth logi lleoliad ffilm, rydych yn cefnogi ein gwaith fel elusen, wrth i ni ddarparu cyfleon, arddangosfeydd a digwyddiadau i dros hanner miliwn o ymwelwyr bob flwyddyn.

Newyddion a'r Wasg

I weld be' sy' 'mlaen yn yr Amgueddfa, neu i gysylltu â Swyddfa'r Wasg, ymwelwch â

Newyddion a'r Wasg.