Llogi

Gofodau Gwych

Llogwch Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer sgrinio ffilmiau, cyngherddau, gigs gyda'r nos a phartïon lawnsio.

Dathlwch gyda ni

Yn ogystal â llogi ystafelloedd, mae gennym becynnau holl-gynhwysol ar gyfer

achlysuron arbennig a digwyddiadau corfforaethol.

Siaradwch gyda'r tîm i gael gwybod rhagor.

Diwrnod Bant o'r Swyddfa

Os ydych chi a'ch tîm yn chwilio am gyfle i ddianc o'r swyddfa, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnig gofodau gwaith hyblyg ac anffurfiol yng nghanol y ddinas.

Llogwch 'stafell neu gofynnwch am fanylion ein pecynnau adeiladu tîm.

Ar agor i bawb

Rydym ni'n cynnig gostyngiad ar bris llogi am ddiwrnod - i grwpiau cymunedol, elusennau cofrestredig, cyrff addusg ffurfiol a Llywodraeth Cymru.

Ebostiwch ni i weld beth allech chi ei wneud yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.