Grwpiau

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn croesawu ymweliadau gan grwpiau ac yn ceisio darparu profiad llawn mwynhad a boddhad. Dylai pob grŵp archebu cyn ymweld i’n galluogi i hwyluso'r ymweliad.

Gall grwpiau sy'n archebu ymlaen llaw fanteisio ar:

  • Fynediad am ddim
  • Gostyngiad o 10% yn y caffi a’r bwyty os ydych yn gwario mwy na £5 y pen
  • Gostyngiad o 10% yn siop yr Amgueddfa os ydych yn gwario mwy na £5
  • Lluniaeth am ddim i yrwyr bysiau

Sylwer: ni all grwpiau addysgiadol hawlio gostyngiad yn y bwytai a’r siopau. Ein polisi yw bod yn rhaid i unrhyw blentyn o dan 11 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Cyn yr ymweliad...

I archebu ac am fanylion pellach cysylltwch â:

Ffôn: (029) 2057 3240

E-bostwch ni

I archebu taith tywys sain ddisgrifiad ar gyfer grwpiau o bobl sydd â nam ar eu golwg: (029) 2057 3315.

  • Wedi i chi gysylltu â ni, byddwn yn anfon ffurflen archebu atoch i chi nodi anghenion eich grŵp. Byddwn yn anfon llythyr i gadarnhau holl fanylion eich ymweliad.
  • Cofiwch wirio pa orielau neu gasgliadau sy'n cael eu harddangos cyn i chi ymweld.

Ar ôl i chi gyrraedd...

  • Gadewch i’r Dderbynfa wybod eich bod wedi cyrraedd gan gadarnhau maint eich grŵp. Bydd y staff yn rhoi label adnabod i chi er mwyn hawlio'r gostyngiadau yng nghaffi /bwyty a siop yr Amgueddfa. Gallwch gasglu map yma hefyd.
  • Mae loceri sy'n dychwelyd arian ar gael yn y Brif Neuadd i gadw bagiau a chotiau. Dylid rhoi ymbaréls yn y biniau a ddarperir.

Yn ystod eich taith/ymweliad…

Bydd dilyn y canllawiau canlynol yn sicrhau bod yr ymweliad yn brofiad pleserus i bawb:

  • Mae'n rhaid i blant dan 11 oed fod dan ofal oedolyn drwy'r amser. Mae Rhaid cael o leiaf 1 oedolyn i bob 8 o blant.
  • Mewn argyfwng, defnyddiwch yr allanfa dân agosaf a dilynwch gyfarwyddiadau y Cynorthwywyr Amgueddfa.
  • Fel arfer, fyddwn ni ddim yn medru archebu lle i grwpiau mawr mewn digwyddiadau cyhoeddus, ond mae'n werth holi i weld a oes yna le.
  • Gofynnwn i bobl beidio bwyta nac yfed neu defnyddio ffon symudol yn yr orielau.
  • Rydym yn caniatáu ffotograffiaeth heb fflach yn rhai orielau. Gweler ein Polisi Ffotrograffiaeth am ragor o wybodaeth.

Cyfleusterau

Parcio i fysiau

Mae lle parcio i ddau fws o flaen yr Amgueddfa. Yn ddelfrydol, dylid defnyddio'r rhain ar gyfer gollwng a chasglu ymwelwyr yn unig. Mae llefydd parcio i fysys ar Heol Corbett – gall Croeso Cymru gynnig rhagor o wybodaeth.

Maes parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr y tu ôl i'r Amgueddfa. Prynwch docyn parcio i adael y maes parcio am £6.50 yn siop yr Amgueddfa yn y Brif Neuadd. Mae parcio am ddim bobl â bathodyn anabledd. Ewch â'ch bathodyn i'r siop i gael tocyn parcio. Mae llefydd parcio ar Heol Gerddi’r Gorsedd o flaen yr Amgueddfa hefyd.

Siop

Mae siop yr Amgueddfa wedi'i lleoli yn y Brif Neuadd. Gall pob aelod o'r grwp hawlio gostyngiad o 10% yn siop yr Amgueddfa pan yn gwario mwy na £5. Gallwch cael eich hoff llun ar eich wal adre - gofynnwch am y gwasanaeth Argraffu yn ôl y Galw. Mae'r holl wariant yn y Siop yn cyfrannu at gostau cynnal yr Amgueddfa.

Bwyd a Diod

Mae Bwyty Oriel ar islawr yr Amgueddfa ar agor o 10am - 2.30pm ac yn gwerthu cinio cynnes ac oer o 12pm. Mae amrywiaeth o frechdanau a baguettes, cawl cartref, cacennau a diodydd poeth ac oer. Rydyn ni'n croesawu teuluoedd ac mae pecynnau cinio, prif brydau bach a phrydau arbennig ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol ar gael i blant.

Mae'r Siop Goffi yn y Brif Neuadd ac yn lle gwych i fwynhau yr adeilad ei hun. Yma rydyn ni'n gwerthu dewis o gacennau cartref a brechdanau, ynghyd â diodydd poeth ac oer. Mae’r Siop Goffi ar agor 10.30am-4.30pm.

Cofiwch y gall pob aelod o'r grŵp hawlio gostyngiad o 10% yng nghaffi a bwyty'r Amgueddfa. Os ydych chi am i ni gadw byrddau ar eich cyfer yn y bwyty, ffoniwch 029 2057 3336.

Edrychwn ymlaen at groesawu eich grŵp i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!