Teuluoedd

Beth bynnag fo’ch diddordebau, mae digon i blant ac oedolion ei fwynhau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar unrhyw ymweliad!

Mae

oriel Esblygiad Cymru

yn ffefryn mawr gan deuluoedd. Teithiwch drwy amser o‘r Glec Fawr a ffurfio’r ddaear gan weld carreg leuad, gwibfeini a llosgfynyddoedd a dod wyneb yn wyneb â deinosoriaid, trilobitau a mamothiaid blewog!

Gallwch chi hefyd archwilio hanes naturiol Cymru o’r coetiroedd i lan y môr yn ein

horielau Hanes Natur

. Allwch chi weld yr heulforgi, y llwynog, y morfil cefngrwm a môr grwban lledraidd mwyaf y byd!? Pa anifail yw’ch ffefryn?

Mae’r

Orielau Celf

yn gartref i luniau, darluniau a cherfluniau anhygoel o’r 500 mlynedd diwethaf hyd heddiw. Dewch i’w gweld – a chofiwch godi llyfryn gweithgareddau fydd yn eich helpu i archwilio’r casgliadau.

Cofiwch am

Ganolfan Ddarganfod Clore

lle gallwch chi agor degau o ddroriau a chanfod a thrin cannoedd o wrthrychau amgueddfa. Archwiliwch arfau yr Oes Efydd, esgyrn deinosoriaid, pryfed trofannol neu gerameg – beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd! Defnyddiwch y microsgopau a’r chwyddwydrau i gael golwg fanylach. Os ydych chi’n wyddonydd brwd neu bod trysor gennych chi adref, beth am ddod â’r gwrthrychau aton ni ac fe wnawn ni eich helpu i’w hadnabod.

Cadwch lygad hefyd am deithiau i’r teulu a thaflenni gweithgaredd i’ch helpu i archwilio’r orielau a cofiwch godi copi o Digwyddiadau sy’n rhestru’r holl weithgareddau a digwyddiadau teuluol fydd yn eu cynnal drwy’r flwyddyn.

Bwyd a Diod

Ymlaciwch ym Mwyty Oriel ar y llawr gwaelod is. Mae dewis yn ein bwyty croesawgar ar gyfer pob oedran a chwaeth boed am brynu tamaid sydyn i chi a’r plant neu am eistedd i lawr am ginio teuluol.

Dewiswch o amrywiaeth o frechdanau, cawl cartref, ciniawau poeth, teisennau, ffrwythau ffres a diodydd. Mae bwydlen blant hefyd i stumogau llai, neu gallwch chi ddewis eitemau ar gyfer bocs bwyd. Mae gennym ardal chwarae a thaflenni gweithgaredd i ddiddanu’r plantos tra byddwch chi’n gorffen eich cinio!

Mae ein siop goffi yn lle gwych i ymlacio a mwynhau awyrgylch ein Prif Neuadd brydferth. Gallwch chi fwynhau amrywiaeth o deisennau a brechdanau cartref yn ogystal â diodydd poeth ac oer.

Mae cadeiriau uchel ar gael yn y bwyty â’r siop goffi. Rydym yn gwerthu poteli o fwyd babi a gallwch chi gynhesu eich poteli eich hunain hefyd — holwch y staff. Darperir cyfleusterau newid babi hefyd.

Prydau Cartref y Dydd
Bwydlen Plant Dine-osaur

Siop yr Amgueddfa

Galwch draw i’n siop lle mae adrannau arbennig i deganau, deunydd addysgiadol a phecynnau gweithgaredd. Mae ystod eang o lyfrau, printiau a chardiau post ar gael hefyd.

Gormod i gario?

Peidiwch â phoeni am straffaglu drwy’r orielau gyda bygis, bagiau a chotiau. Gallwch chi adael eich bygi yn ein storfa bwrpasol ac mae ein loceri yn ddigon mawr i ddal eich bagiau a’ch cotiau. Bydd angen darn £1 arnoch chi, a byddwch yn cael hwn yn ôl ar ddiwedd eich ymweliad. Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser

Partïon Plant

Beth am gynnal parti pen-blwydd eich plentyn yma? Mae digonedd o adloniant i ddiddanu'r plant am oriau — o deinosoriaid yn yr orielau i hwyl yn Canolfan Ddarganfod Clore ble mae cyfle i chyffwrdd gwrthrychau’r Amgueddfa. Gallwn ni ofalu am y bwyd a'r diod gyda dewis o brydau oer a phoeth, pwdinau a diodydd.