Camau Cymraeg

Clawr Camau Cymraeg

Mae'r cynllun cyffrous newydd sbon yma'n rhoi cyfle i diwtoriaid Cymraeg i oedolion ddefnyddio Amgueddfa Lechi Cymru fel adnodd; caiff dysgwyr wella eu sgiliau iaith a chyfathrebu mewn amgylchedd naturiol Gymreig. Fe'i paratowyd gan Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru; mae'n rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ac yna'n hawdd i'w lungopïo.

Darllenwch y wybodaeth am

Drefnu ymweliad a Pharatoi gwers yn y ddewislen ar y chwith er mwyn sicrhau eich bod chi'n manteisio i'r eithaf ar eich ymweliad – ffoniwch os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Gobeithio y cewch chi ymweliad difyr â'r Amgueddfa Lechi!

Cliciwch

yma i lawrlwytho'r pecyn.