Paratoi Gwers

Seiliwyd y gweithgareddau ar lefelau ALTE a dilynir trefn y patrymau a nodir yn y meysydd llafur: MYNEDIAD, SYLFAEN, CANOLRADD ac UWCH.

Dylai tiwtoriaid baratoi myfyrwyr cyn ymweld â'r Amgueddfa trwy gyflwyno'r patrymau a'r eirfa angenrheidiol iddynt. Dylech roi cyfarwyddiadau clir i bob grŵp cyn dechrau a rhoi gwybod iddyn nhw ble fydd y tiwtor. Sicrhewch fod gan bob myfyriwr gopi o'r daflen angenrheidiol ymlaen llaw a'u bod yn gwybod yn union beth mae disgwyl iddynt ei wneud. Dylai'r tiwtor fod ar gael mewn man ganolog (e.e. Ystafell Padarn) i gasglu adborth y myfyrwyr ac i gynnig help yn ôl yr angen.

Dylid rhybuddio myfyrwyr y byddant yn clywed ffurfiau ieithyddol gwahanol i'r rhai maen nhw wedi eu dysgu. Os nad ydyn nhw'n deall rhywun yn siarad, mae croeso iddyn nhw ofyn i'r person ailadrodd y peth yn araf a gofyn beth yw ystyr unrhyw air neu ffurf anghyfarwydd. Dylid sicrhau bod y dysgwr (yn enwedig dechreuwyr pur) yn gyfarwydd ag ymadroddion fel 'Eto, os gwelwch yn dda', 'Siaradwch yn araf' neu 'Dw i ddim yn deall'.

Ar ôl eich ymweliad

Cofiwch ddefnyddio'r sesiynau'r dosbarth ar ôl yr ymweliad i gadarnhau unrhyw batrymau neu eirfa a godwyd.