Trefnu Ymweliad

Mae'n bwysig eich bod chi'n ein ffonio ni ymlaen llaw ar (029 2057) 3706 / 3717 i drefnu'ch ymweliad. Er mwyn osgoi cael eich siomi, rydym ni'n argymell eich bod chi'n trefnu o leiaf bythefnos ymlaen llaw gan fod cyfyngiad ar nifer y grwpiau y gellir eu derbyn mewn diwrnod. Rhowch wybod i ni cyn gynted ag y bo modd os ydych chi am newid manylion eich ymweliad.

Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim; codir tâl parcio o £2 y car, caiff bysiau barcio am ddim.

Wrth ffonio, bydd angen i chi roi'r wybodaeth ganlynol:

  • Nifer y bobl sydd yn eich grŵp.
  • Tua faint o'r gloch rydych chi'n disgwyl cyrraedd a gadael y safle.
  • Pa lefel o weithgareddau mae eich grŵp yn bwriadu eu gwneud (e.e. mynediad, uwch).