Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tuag at Larnog Gaeaf / Gwanwyn '93/94
Defnyddiodd yr artist dywod, llaid, olew a sbwriel a olchwyd i'r lan ar draeth Penarth yn ogystal â defnyddiau arlunio mwy cyffredin. Mae'r panelau'n cynnwys wyth fersiwn o ymateb arlunydd arall i'r un olygfa: Y Clogwyn ym Mhenarth a dynnwyd gan Sisley ym 1897 ac a welir yn Oriel 13. Mae ansefydlogrwydd hanfodol llun Setch yn dwysáu'r themáu o dreigl amser, breuder amgylchedd yr arfordir a'r ffordd y mae'n newid drwy'r amser.
The artist has used sand, mud, oil and rubbish washed up on the beach at Penarth as well as more familiar drawing and painting materials. Embedded in the panels are eight versions of another artist's response to the same landscape: Sisley's 'The cliff at Penarth' of 1897 (on display in Gallery 13). The inherent physical instability of Setch's painting intensifies his themes of passing time, the fragility of the coastal environment and its constant transformation.