Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Oven
Yn ogystal â chodi rhesi tai fel rhes Rhyd-y-car, trefnodd y meistr haearn Richard Crawshay i godi tri phopty cymunedol ar gyfer y tenantiaid. Gwaetha'r modd, dymchwelwyd y tri ymhen amser ond mae'r enghraifft hon o Poplar Place, Georgetown, yn union yr un peth. Fe'i gwnaed o rwbel tywodfaen gyda tho o deils cerrig fel y rhai a geir ar bedwar o dai . Byddai drws o slabyn carreg yn cael ei selio â chlai neu ddom da er mwyn cadw'r gwres i mewn. Ni ddaeth y becws masnachol yn gyffredin yn nhrefi a phentrefi Cymru tan ddechrau'r 20fed ganrif. Felly, roedd disgwyl i wragedd tŷ bobi bara, ar gyfer teuluoedd mawr yn aml, mewn poptai bychain, annigonol. Mewn rhai llefydd, roedd poptai brics cymunedol, mwy o faint, yn cael eu codi mewn mannau cyfleus ar gyfer nifer o dai fel y gallai pawb bobi eu bara eu hunain. Fel rheol, byddai pob teulu'n cael diwrnod pryd y câi ddefnyddio'r popty ond weithiau roedd rhywun yn cael ei benodi i ofalu amdano am dâl e.e. ceiniog am bob torth.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.