Questionnaire
Atebion i holiadur gan Harri Williams o Rhos-y-bol, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod gwaith cyffredin ers llawer dydd'.
Holiadur, Cyngor Gwlad Môn 1957
Lluniwyd y cwestiynau gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1957 er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am ‘ddiwrnod gwaith cyffredin’. Dosbarthwyd yr holiadur at unigolion gan Gyngor Gwlad Môn. Mae’r cwestiynau wedi eu teipio a’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw.
×
❮
❯
Tudalen 1/Page 1
[Beth oedd amser codi arferol?]
5 or [sic] gloch
[A godai pawb yr un amser?]
gwnai.
[A wneid unrhyw waith cyn brecwast?]
gwnai lawer iawn
[Pa bryd oedd amser brecwast?]
6 yn y Bora
[Beth a fwyteid i frecwast?]
Bara Brwas
[A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?]
Bydda pawb
[A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?]
oedd
[Pa bryd yn ystod y dydd y cedwir dyletswydd?]
ar ol cinio
[Pwy fyddai’n cymryd rhan?]
pawb yn i[sic] dro.
[A gymerai pawb ran yn ei dro?]
Pawb fydda yn cymryd Rhan y capal[sic].
[A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?]
na fydda.
[Os felly, pa fwyd?]
[Beth oedd enw’r pryd?]
[Ym mh’le y bwyteid ef?]
[A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?]
[A faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?]
12 or [sic] gloch.
[A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?]
Bydda
[Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?]
tatw a cig moch
[A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?]
Dim ond y gweision.
[A oedd enw arall ar ginio?]
oedd pnawnfwyd.
Tudalen 2/Page 2
[A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?]
weithiau yn y cynuaf [sic] gwair.
[Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?]
nac oedd
[Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio?]
y gloch yn canu
[Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn?]
am Bedwar yn yr haf
[Beth oedd yr enw, neu’r enwau arno?]
te.
[Beth a fwyteid?]
Bara haidd a Bara gwenith.
[Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?]
yn y cau [sic} yn yr haf.
[Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?]
8 or {sic} gloch i 9.
[Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?]
swpar.[sic]
[Beth a fwyteid iddo?]
Uwd a llaeth.
[Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)]
pawb a fyddai adra
[Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?]
calad iawn
[Pa amser a wneid y godro?]
4 or [sic] gloch yn y pnawn a 7 yn y Bora.
[A fyddid yn dyrnu â ffust?]
Bydda mi fum i wrthi
[Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?]
un waith yn y mis neu ragor.
[A beth am y dynion?]
mi fydd y dynion yn mynd at ei gilidd [sic] 2 waith yn yr wythnos.
[Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)]
hel streuon [sic]
[Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?]
chura [sic] codi pwysau a taflu codwm.
[Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?]
11 i Hanar [sic] nôs[sic]
[A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?]
trwsio sana
[A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?]
oedd mi fyddwn yn Bwyta llawer o lobscouse.
-
-
Derbyniad
Collected Officially