Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Derrick Gayle
“Pe bawn i’n cael gwared ar fy nhafodiaith, pwy fuaswn i wedyn?”
Ganed Derrick Gayle yn Jamaica yn 1954. Pan roedd yn tua 14 mlwydd oed yn 1968, fe deithiodd i Brydain i fyw gyda’i fam a’i lystad yn Lloegr. Ymgartrefodd yng Nghymru yn nes ymlaen.
“Fy nain oedd fy mam ar hyd fy oes... Doedd yna ddim byd yno i ddweud ‘rwy’n dy gofio di’... allaf i ddim dweud ’mod i’n ei chofio hi o gwbl cyn imi ddod i Loegr, pan roeddwn i’n tua 14, 15 oed. Dyma’r tro cyntaf inni gyfarfod, felly gallwch ddychmygu ei bod yn anodd imi setlo yn y tŷ...”
“Roeddwn i mor oer, oer, oer... am chwe mis, roeddwn i wedi fy lapio mewn llwyth o sgarffiau pêl-droed, roedd gen i falaith oerni pan roeddwn i’n blentyn, ond troi ei chefn wnaeth mam bob tro... eisteddais o flaen y tân, fel arall ‘gadael i’r gwres ledaenu’.”
“Roedden ni’n ddiniwed... plant Duon ifanc oedden ni ac roedd y naws hiliol bryd hynny yn, wel, ‘Rivers of Blood’ Enoch Powell, fe oedd y gŵr a aeth i’r Caribî a dechrau recriwtio pobl o India’r Gorllewin i ddod i Loegr. Y peth a oedd yn hiliol oedd... roedd hyn yn ôl yn 1975, roedden ni wedi bod yn y wlad ers llai na phum mlynedd...”
“Y tu allan i Wolverhampton... wrth gyrraedd rhyw ran arbennig o’r dref, roedden nhw’n taflu cerrig at y bws, yn enwedig pan oedden nhw’n gweld dyn Du: ‘Ah, get them n***rs’.”
“Roedd ganddyn nhw un nod, ennill arian... unwaith y dois i fyw yng Nghaerdydd... mae ambell un roeddwn i’n ei adnabod bryd hynny a fu farw neu a gafodd ei ladd... oherwydd bod rhywbeth neu’i gilydd wedi digwydd, dyna sut roedd pethau’r dyddiau hynny...”
“Mae’n rhaid ichi ddal gafael ar ran o’ch diwylliant. A dyna pam rwy’n parchu’r bobl sy’n siarad Cymraeg, rwy’n adnabod ambell un ac maen nhw’n bobl wych, mae eu ffordd nhw o feddwl yn wahanol...”